Bwrdeistref Harrogate
Ardal an-fetropolitan a bwrdeistref yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Lloegr, yw Bwrdeistref Harrogate.
Math | ardal an-fetropolitan, bwrdeisdref |
---|---|
Ardal weinyddol | Gogledd Swydd Efrog |
Prifddinas | Harrogate |
Poblogaeth | 160,533 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | Bagnères-de-Luchon, Harrogate, Dinas Wellington |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 1,307.9468 km² |
Cyfesurynnau | 53.9903°N 1.5411°W |
Cod SYG | E07000165 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Harrogate Borough Council |
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 1,308 km², gyda 160,831 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae’n ffinio Ardal Hambleton i’r gogledd-ddwyrain, Dinas Efrog i’r dwyrain, Ardal Selby i’r de-ddwyrain, Gorllewin Swydd Efrog i’r de, Ardal Craven i’r gorllewin, a Richmondshire i’r gogledd-orllewin.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Roedd yn gyfuniad o ardaloedd gwledig Masham a Wath, a rhan o Ardal Gwledig Thirsk, a oedd yn Riding Gogleddol Swydd Efrog, ynghyd â bwrdeistrefi Harrogate a dinas Ripon, ardal trefol Knaresborough, Ardal Gwledig Nidderdale, Ardal Gwledig Ripon a Pateley Bridge, rhannau o Ardal Gwledig Wetherby ac Ardal Gwledig Wharfedale, a oedd i gyd yn Riding Gorllewinol Swydd Efrog. Ar 1 Ebrill 1996, trosglwyddwyd y pedwar plwyf Nether Poppleton, Upper Poppleton, Hessay a Rufforth i awdurdod unedol newydd Dinas Efrog.
Mae pencadlys cyngor y fwrdeistref yn nhref Harrogate. Mae aneddiadau eraill yn yr ardal yn cynnwys dinas Ripon a threfi Knaresborough, Boroughbridge, Pateley Bridge a Masham. Mae’r fwrdeistref yn cynnwys dyffryn Nidderdale, yn ogystal â rhannau o Froydd Mowbray ac Efrog.
Safleoedd hanesyddol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ City Population; adalwyd 6 Hydref 2020