Ariel (dinas)
Mae Ariel (Hebraeg: אֲרִיאֵל; Arabeg: اريئيل) yn anheddiad a dinas yn Israel a leolir yn Llywodraethiaeth Salfit, yn y Lan Orllewinol. Yn ôl system weinyddol Israel yn y nhiriogaethau Palesteina dan feddiant, mae wedi'i leoli yn Ardal Jiwdea a Samaria. Yn hanesyddol, mae'r rhanbarth hwn wedi'i leoli yn rhanbarth Beiblaidd hynafol Samaria, yn Syria Rufeinig-Palestina ac yng Ngwlad Arabaidd Sham. Fe'i sefydlwyd ym 1978, ac roedd ganddo 16,600 o drigolion yn 2007, sy'n golygu mai hwn yw'r pumed anheddiad Israel mwyaf yn y Lan Orllewinol. Rhoddodd Gweinyddiaeth Mewnol Israel statws "dinas" i fwrdeistref Ariel ym 1998.
Math | Israeli settlement, dinas |
---|---|
Poblogaeth | 20,540 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Heredia |
Daearyddiaeth | |
Sir | Judea and Samaria Area, Llywodraethiaeth Salfit |
Gwlad | Israel |
Arwynebedd | 14,677 km² |
Uwch y môr | 560 metr |
Cyfesurynnau | 32.1061°N 35.1878°E |
Mae'r gymuned ryngwladol o'r farn bod aneddiadau Israel yn y Lan Orllewinol yn anghyfreithlon yn ôl Pedwerydd Confensiwn Genefa, y mae Israel yn aelod ohono ac y mae erthygl 49 yn nodi "na chaiff y Pŵer meddiannu gyflawni gwacáu na throsglwyddo rhan ei hun poblogaeth sifil i'r diriogaeth a feddiannir ganddi." Nid yw llywodraeth Israel yn cytuno â'r safbwynt hwn.[1]
Lleoliad
golyguLleolir Ariel 17km a 22km i'r dwyrain o'r Linell Werdd[2] Mae Ariel wedi'i leoli wrth ymyl trefi Palesteina Arabaidd, Salfit, Marda ac Iskaka. Mae dinas Ariel wedi'i lleoli 14 cilomedr o Nablus, 22 cilomedr o Ramallah, 40 cilomedr o Tel Aviv, 40 cilomedr i'r gorllewin o Afon Iorddonen a 60 cilomedr i'r gogledd o Jerwsalem. Mae awdurdodaeth Ariel yn rhychwantu 14,677 dunam, (14.677 km2; 5.667 metr sgwâr). Mae'r ardal wedi'i chysylltu ag ardal fetropolitan Gush Dan (Tel Aviv fwyaf) ar briffordd Traws-Samaria ac â Jerwsalem ar Lwybr 60.
Enw
golyguYn Hebraeg, ystyr Ariel yw "Llew Duw", enw a ddefnyddir fel symbol o ddewrder ac sy'n arwyddlun llwyth Jwda. Yn y Beibl, mae Ariel yn un o’r enwau ar gyfer Jerwsalem ac mae wedi’i uniaethu â Theml Jerwsalem (Llyfr Eseia 29: 1-8).[3] Yn 2009 penderfynodd Cyngor y Ddinas, ail-ddehongli'r enw er anrhydedd i gyn-Brif Weinidog Israel, Ariel Sharon a oedd yn gefnogwr ac ysgogwr crys o bolisi Israel o greu dreflannau ar y Lan Orllewinol.[4]
Hanes
golyguYn gynnar yn 1978 daeth grŵp o ymsefydlwyr seciwlar o Israel o hyd i le i sefydlu cyfadeilad preswyl ym mryniau Samaria. Dewisodd ei arweinydd, Ron Nachman, y safle ar gyfer ei leoliad strategol pe bai goresgyniad o Wlad yr Iorddonen. Ym mis Awst 1978, roedd 40 o deuluoedd eisoes wedi setlo ac ar 1 Medi agorwyd yr ysgol gyntaf. Roedd y dŵr yn dod trwy danciau a darparwyd generadur trydan. Tyfodd y dref trwy dderbyn, ymhlith eraill, Iddewon traddodiadol ac . Heddiw mae ganddo bedwar ar ddeg o synagogau.
Addysg
golyguMae Ariel yn gartref i Ganolfan Samaria Prifysgol Prifysgol Ariel, a sefydlwyd ym 1982. Yn 2005, dyrchafodd llywodraeth Israel y coleg ar y pryd i statws prifysgol, ond nid oedd y trawsnewid ar unwaith; ym mis Awst 2007, pan gadarnhawyd ei gategori newydd, newidiodd ei enw blaenorol (Coleg Academaidd Jwdea a Samaria) i'r un cyfredol. Ar hyn o bryd mae ganddo 9500 o fyfyrwyr wedi cofrestru, gan gynnwys myfyrwyr Iddewig ac Arabaidd.
Mae'r brifysgol yn cynnig astudiaethau israddedig mewn amrywiaeth eang o bynciau: Peirianneg Sifil, Peirianneg Trydan ac Electroneg, Peirianneg Cemegol a Biotechnoleg, Peirianneg a Rheolaeth Ddiwydiannol, Peirianneg Fecanyddol, Ffiseg Gymhwysol, Bioleg Foleciwlaidd, Cemeg Fiolegol, Mathemateg, Cyfrifiadura Gwyddoniaeth, Pensaernïaeth, Ffisiotherapi , Rheoli Iechyd, Maeth, Meddygaeth, Gwaith Cymdeithasol, Economeg a Rheoli Busnes, Cyfathrebu, Asudiaethau Israel a'r Dwyrain Canol, y Dyniaethau ac eraill.
Demograffeg
golyguRoedd poblogaeth Ariel yn sefyll ar 20,540 in 2019, gan gynnwys Iddewon o bob oed, mewnfudwyr Saesneg eu hiaith, mewnfudwyr o'r hen Undeb Sofietaidd ac oddeuru 10,000 o fyfyrwyr.[5] Dyma bedwaredd dreflan Iddewig fwyaf ar y Lan Orllewinol yn dilyn Modi'in Illit, Beitar Illit, a Ma'ale Adumim.[6]
Mae Swyddfa Ystadegau Ganolog Israel yn adrodd ar y ffigurau poblogaeth canlynol ar gyfer Ariel yn Cyfrifiad Mehefin 4, 1983, Tachwedd 4, 1995, a Rhagfyr 28, 2008:[7]
Cyfrifiad | 1983 | 1995 | 2008 |
Trigolion | 1,340 | 13,800 | 16,716 |
Mur Israelaidd y Lan Orllewinol
golyguYn wreiddiol, cynlluniwyd Mur Ymrannu Israel i ymestyn allan o ffin Israel i Ariel. O dan bwysau gwleidyddol America gan gynnwys George W. Bush a Obama, ni chodwyd mur goncrit y "bys", fel y gelwir estyniad y ffens i gynnwys Ariel. [8] Yn lle, mae gan Ariel ffens ddiogelwch o'i chwmpas ar dair ochr yn unig.
Gefeilldrefi
golyguMae gan Ariel ddau gefeilldref:
- Costa Rica Heredia, Costa Rica
- Unol Daleithiau Mobile, Alabama, UDA
Cyfeiriadau
golygu- ↑ The Geneva Convention en BBC News Thursday, 10 December 2009 (en inglés). Consultado 13/02/2018
- ↑ https://www.jewishvirtuallibrary.org/vie-ariel
- ↑ https://www.bible.com/cy/bible/394/ISA.29.BCND
- ↑ "Ariel Named for Former PM", Israel National News, 13 Gorffennaf 2009; adalwyd 15 Hydref 2022
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-01. Cyrchwyd 2021-09-01.
- ↑ https://www.jpost.com/Israel/PM-Ariel-is-the-capital-of-Samaria
- ↑ Israelisches Zentralbüro für Statistik
- ↑ https://www.972mag.com/the-wall-10-years-on-the-great-israeli-project/
Dolenni allanol
golyguOriel
golygu-
Golygfa o Ariel tuag at fryniau Samaria, y Lan Orllewinol
-
Llwybr 505 o'r dwyrain i'r gorllewin. I'r chwith mae Marda. I fyny ar y bryn mae Ariel.
-
Cofeb i 'ddioddefwyr terfysgaeth' ger gwesty'r Eshel Hashomron ger gorsaf nwy Eshel Homeron wrth y fynedfa i Ariel
-
Tŵr yn Ariel, 2020
-
Tai yn Ariel
-
Maestref o ddinas Ariel, 2013
-
Prifysgol Ariel Canol Samaria, 2005
-
Arfbais dinas Ariel gyda'r gair 'Ariel' wedi ei hysgrifennu arno