Arizona
Mae Arizona yn dalaith yn ne-orllewin yr Unol Daleithiau, sy'n ymrannu'n naturiol yn ddwy ran; yn y gogledd-ddwyrain mae'n rhan o Lwyfandir Colorado ac yn y de a'r gorllewin mae'n ardal o ddyffrynoedd a thiroedd sych. Mae Afon Salt ac Afon Gila yn rhedeg trwy' de'r dalaith. Yn y gogledd-orllewin mae Afon Colorado yn llifo trwy'r Grand Canyon. Ei arwynebedd tir yw 295,023 km².
Arwyddair | Ditat Deus |
---|---|
Math | taleithiau'r Unol Daleithiau |
Prifddinas | Phoenix |
Poblogaeth | 7,151,502 |
Sefydlwyd | |
Anthem | The Arizona March Song, Arizona |
Pennaeth llywodraeth | Katie Hobbs |
Cylchfa amser | UTC−07:00, Cylchfa Amser y Mynyddoedd |
Gefeilldref/i | 臺南市 |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Southwestern United States, taleithiau cyfagos UDA |
Sir | Unol Daleithiau America |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 295,234 km² |
Uwch y môr | 1,250 metr |
Gerllaw | Afon Colorado |
Yn ffinio gyda | Califfornia, Nevada, Utah, Mecsico Newydd, Baja California, Sonora, Colorado |
Cyfesurynnau | 34.2867°N 111.6569°W |
US-AZ | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Government of Arizona |
Corff deddfwriaethol | Arizona State Legislature |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Arizona |
Pennaeth y Llywodraeth | Katie Hobbs |
Yn ogystal â’r Grand Canyon, mae gan y dalaith atyniadau eraill i dwristiaid, megis yr Argae Hoover, yr Anialwch Peintiedig, Y Fforest Betraidd, Canyon de Chelly, Llyn Havasu, Llyn Mead a Monument Valley.[1]
Mae gan y dalaith y boblogaeth frodorol uchaf yn UDA ac yn gartref i'r Navajo, yr Hopi a'r Apache. Roedd Arizona yn rhan o New Mexico tan iddi gael ei ildio i'r Unol Daleithiau yn 1848. Roedd yn lleoliad i nifer o ryfeloedd yn erbyn y pobloedd brodorol, yn arbennig yr Apache, o'r 1850au hyd 1877. Ni ddaeth yn dalaith tan mor ddiweddar â 1912. Phoenix yw'r brifddinas.
Gweler hefyd
golyguDinasoedd Arizona
golygu1 | Phoenix | 1,445,632 |
2 | Tucson | 520,116 |
3 | Mesa | 439,041 |
4 | Chandler | 236,123 |
5 | Glendale | 226,721 |
6 | Scottsdale | 217,385 |
7 | Tempe | 161,719 |
Cyfeiriadau
golygu
Dolen allanol
golygu- (Saesneg) az.gov
-
Y Fforest Betraidd
-
Yr Anialwch Peintiedig
-
Grand Canyon