Arthur John Williams
Roedd Arthur John Williams (14 Ebrill, 1834 – 12 Medi, 1911) yn gyfreithiwr, yn awdur ac yn gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol De Forgannwg o 1885 i 1895
Arthur John Williams | |
---|---|
Arthur J Williams AS Cartŵn Papur Pawb 1893 | |
Ganwyd | 14 Ebrill 1834 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 12 Medi 1911 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
Swydd | Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig |
Priod | Rose Harriott Crawshay |
Plant | Leslie Crawshay-Williams, Eliot Crawshay-Williams |
Cefndir
golyguCafodd Williams ei eni ym Mhen-y-bont yn fab i'r Dr John Morgan Williams. Roedd Arthur John Williams yn un o ymddiriedolwyr y tir y mae'r pentref Trewiliam wedi ei adeiladu arno ac a enwyd o glod i'w enw teuluol. Cafodd addysg breifat cyn mynd i astudio'r gyfraith.
Ym 1878 priododd Rose Harritte Thomson Crawshay, bu iddynt dau fab bu'r mab hynaf Eliot Crawshay-Williams yn AS Caerlŷr o 1910 i 1913. Doedd tad Rose, Robert Thompson Crawshay, y meistr haearn o Gastell Cyfarthfa dim yn cymeradwyo'r briodas, gwrthododd mynychu'r seremoni a thorrodd Rose allan o'i ewyllys.[1]
Gyrfa
golyguCafodd Williams ei alw i'r Bar yn y Deml Fewnol ym 1867. Gwasanaethodd fel ysgrifennydd mygedol i Gymdeithas y Gyfraith a'r Gymdeithas Addysg Gyfreithiol.
Ym 1869 cyhoeddodd Williams ei lyfr cyntaf, The Appropriation of the Railways by the State, y cyntaf o lawer o gyhoeddiadau a oedd yn ymwneud yn bennaf â phryderon cyfreithiol ac economaidd. Ym 1878 cafodd Williams yn ei benodi i swydd Ysgrifennydd y Comisiwn Brenhinol ar Ddamweiniau mewn Mwyngloddiau, gan ymchwilio i achosion lawer o drychinebau glofaol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.
Gyrfa wleidyddol
golyguSafodd Williams yn etholaeth Penbedw fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholiad cyffredinol 1880, ond fe fu'n aflwyddiannus yn ei ymgais i gael ei ethol. Ym 1882 fe gynigiodd sefydlu'r National Liberal Club, clwb i ŵyr bonheddig oedd yn cefnogi'r achos Rhyddfrydol; sefydlwyd y clwb yn swyddogol ym 1884 ac agorwyd adeiladau'r clwb ar Arglawdd y Tafwys ym 1887, lle mae'n sefyll o hyd (er bod hawl i ferched ymuno bellach).[2]
Yn 1885 cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol De Morgannwg gan dal y sedd tan 1895, pan gafodd ei drechu gan y Ceidwadwyr. Fel AS bu'n ymgyrchu dros gynrychiolaeth gyfrannol a diddymu Arglwyddi Etifeddol yn Nhŷ'r Arglwyddi. Roedd yn gefnogol iawn i ddatgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru, yn aelod brwd o Gymru Fydd ac yn gefnogwr cryf i achos ymreolaeth i Gymru.[3]
Cyhoeddiadau
golygu- The Appropriation of the Railways by the State London (1868)
- Hints to Honest Citizens on Going to Law Cassell & Co. (1885)
- How to Avoid Law Cassell & Co. (1888)
Marwolaeth
golyguBu farw Williams yn ei gartref, Coed y Mwstwr, Llangrallo yn 77 mlwydd oed a rhoddwyd ei lwch i orwedd ym mynwent eglwys y plwyf.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Archifau Cymru Papurau A J Williams [1] Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback adalwyd 29 Mehefin 2015
- ↑ Robert Steven, The National Liberal Club: Politics and Persons (Robert Holden, London, 1925)
- ↑ Papur Pawb 22 Ebrill 1893 Arthur John Williams AS [2] adalwyd 29 Mehefin 2015
- ↑ Aberdeen Journal 13 Medi 1911 Death of Mr A J Williams
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol De Forgannwg 1885 – 1895 |
Olynydd: Windham Henry Wyndham-Quin |