Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite
Roedd Arthur Walsh, ail farwn Ormathwaite (14 Ebrill 1827 – 27 Mawrth 1920) yn fonheddwr a thirfeddianwr yn Sir Faesyfed a gwasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Llanllieni a Sir Faesyfed.[1]
Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite | |
---|---|
Ganwyd | 14 Ebrill 1827 |
Bu farw | 27 Mawrth 1920 |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | John Benn Walsh, Barwn 1af Ormathwaite |
Mam | Jane Walsh |
Priod | Katherine Walsh |
Plant | Arthur Walsh, George Walsh, Reginald Walsh, Margaret Blanche Walsh, Emily Gertrude Walsh, Edith Katherine Walsh, Charles Edward Walsh, Gerald Walsh, Guy Robert Walsh, Nigel Christopher Walsh |
Bywyd Personol
golyguGanwyd Walsh yn Berkley Square Llundain yn fab hynaf i John Benn Walsh, Barwn 1af Ormathwaite a'r Ledi Jane, (née Gray) ei wraig, cafodd ei fedyddio yn Eglwys Anglicanaidd St George, Hanover Square ar 18 Mai 1827[2].
Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton a Choleg y Drindod, Caergrawnt
Ar 20 Mai 1858 yn Eglwys St George, Hanover Square priododd y Ledi Katherine Emily Mary Somerset, merch 7fed Dug Bedford[3]. Bu iddynt 10 o blant gan gynnwys [4]
- Arthur Henry John Walsh, 3ydd Barwn Ormathwaite (1859–1937)
- Yr Uwchgapten, yr Anrhydeddus Charles Edward Walsh (1862–1909), Prif Gwnstabl Heddlu Sir Benfro
- George Harry William Walsh, 4ydd Barwn Ormathwaite (1863–1943)
- Reginald Walsh, 5ed Barwn Ormathwaite (1868–1944)
Gyrfa
golyguGwasanaethodd yn y fyddin gan ddod yn gapten ym mataliwn 1af y Life Guards hyd 1855. Gwasanaethodd fel Cyrnol anrhydeddus 3ydd Bataliwn Cyffinwyr De Cymru
Yn ystod bywyd Syr John Benn Walsh, y Barwn cyntaf, cynyddwyd ystadau'r teulu yng Nghymru, Lloegr a'r Iwerddon yn sylweddol, ond daeth hyn i ben yn ystod stiwardiaeth yr ail farwn. Bu Walsh yn benthyca'n drwm o'r 1850au er mwyn talu am ei basiwn am hela, gan ddefnyddio ei etifeddiaeth ddisgwyliedig fel meichiafon[5]. Erbyn yr 1890au bu'n rhaid i'r Barwn dechrau gwerthu ei asedau er mwyn ceisio clirio ei ddyledion. Ym 1895 ymddangosodd o flaen yr Uchel Lys i gyflwyno deiseb o fethdaliad, a phenodwyd derbynwyr i geisio dod i delerau efo'r problemau ariannol[6].
Gwasanaethodd fel Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed o ymddeoliad ei dad o'r swydd ym 1875[7] hyd ei ymddiswyddiad yntau ym 1895.
Gyrfa Wleidyddol
golyguCafodd ei ethol yn Aelod Seneddol Ceidwadol etholaeth Llanllieni ym 1865. Pan ddyrchafwyd ei dad i Dŷ'r Arglwyddi ym 1868 ymddiswyddodd o Lanllieni a chafodd ei ethol yn ddiwrthwynebiad fel Aelod Seneddol Sir Faesyfed[8] gan gadw'r sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd ym 1880.
Fe'i dyrchafwyd i Dŷ'r Arglwyddi ar farwolaeth ei dad ym 1881.
Gwasanaethodd fel Cynghorydd a chadeirydd Cyngor Sir Faesyfed [9]
Marwolaeth
golyguBu farw ym 1920 yn 96 mlwydd oed. Olynwyd ef yn y Barwniaeth gan Arthur ei fab hynnaf.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ORMATHWAITE’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 accessed 5 June 2016
- ↑ City of Westminster Archives Centre; Westminster Baptisms; Birth, Marriage, Death & Parish Records
- ↑ City of Westminster Archives Centre; Westminster Marriages; Birth, Marriage, Death & Parish Records
- ↑ Ormathwaite, Baron (UK, 1868 - 1984) Archifwyd 2016-04-01 yn y Peiriant Wayback adalwyd 5 Mehefin 2016
- ↑ Walsh, Arthur John, 2nd Baron Ormathwaite (1827-1920) adalwyd 6 Mehefin 2016
- ↑ "MethdaliadBarwnOrmathwaite - Ye Brython Cymreig". The Welsh Press Company Limited. 1895-10-25. Cyrchwyd 2016-06-06.
- ↑ "Notitle - Wrexham and Denbighshire Advertiser and Cheshire Shropshire and North Wales Register". George Bayley. 1875-04-24. Cyrchwyd 2016-06-05.
- ↑ "IELECTIONNEWS - The North Wales Chronicle and Advertiser for the Principality". Kenmuir Whitworth Douglas. 1868-05-02. Cyrchwyd 2016-06-05.
- ↑ "RADNORSHIRECOUNTYCOUNCIL - The Cardiff Times". David Duncan and William Ward. 1892-03-26. Cyrchwyd 2016-06-06.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Syr John Walsh |
Aelod Seneddol dros Sir Faesyfed 1868 – 1880 |
Olynydd: Syr Richard Green-Price |
Teitlau Pendefigaeth/Bonheddig | ||
Rhagflaenydd: John Benn Walsh |
Barwn Ormathwaite 1881 – 1920 |
Olynydd: Arthur Henry John Walsh |
Teitlau Anrhydeddus | ||
Rhagflaenydd: Syr John Walsh |
Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed 1875 - 1895 |
Olynydd: Powlett Milbank |