Powlett Milbank

tirfeddiannwr a gwleidydd Cymreig

Roedd Syr Powlett Charles John Milbank (1 Mai 185230 Ionawr 1918) yn dirfeddiannwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Sir Faesyfed rhwng 1895 a 1900 ac Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed o 1895 hyd ei farwolaeth.[1]

Powlett Milbank
Ganwyd1 Mai 1852 Edit this on Wikidata
Caeredin Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 1918 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadFrederick Milbank Edit this on Wikidata
MamAlexina Harriet Elizabeth Don Edit this on Wikidata
PriodEdith Mary Green-Price Edit this on Wikidata
PlantSybil May Milbank, Gladys Mary Milbank, Aline Laura Milbank, Sir Frederick Richard Milbank, 3rd Bt. Edit this on Wikidata

Bywyd Personol golygu

Ganwyd Milbank yng Nghaeredin, yn ail fab i Syr Frederick Acclom Milbank, barwnig 1af a Alexina Harriet Elizabeth, merch Syr Alexander Don, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yng Ngholeg Eton

Ym 1875 priododd Edith Mary merch Syr Richard Green-Price. Bu iddynt fab a thair merch.

Gyrfa golygu

Trwy ei briodas daeth Milbank yn landlord ystâd Norton Manor, Llanandras. Daeth yn berchennog ar ystâd enfawr yn swydd Efrog, gwerth £400,000, gan gynnwys ystâd Barningham, Barnard Castle ar farwolaeth ei hen ewyrth Harry George Powlett, 4ydd Dug Cleveland ym 1891[2].

Bu farw Harry ei frawd hyn ym 1892, gan hynny etifeddodd Powlett y farwnigaeth ar farwolaeth ei dad ym 1898.

Bu'n gwasanaethu fel ynad heddwch ar fainc Sir Faesyfed

Ym 1902 bu'n feistr Helfa Sir Faesyfed a Gorllewin Swydd Henffordd

Gyrfa Wleidyddol golygu

Safodd Milbank yn enw'r Blaid Geidwadol fel ymgeisydd seneddol Sir Faesyfed yn etholiad Cyffredinol 1895 gan gipio'r sedd, yn annisgwyl gan yr aelod Rhyddfrydol Frank Edwards. Penderfynodd beidio ceisio amddiffyn ei sedd yn etholiad cyffredinol 1900.

Bu'n gwasanaethu fel Henadur ar Gyngor Sir Faesyfed

Penodwyd Milbank yn Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed ym 1895 ar ymddeoliad Arthur Walsh, 2il Farwn Ormathwaite o’r swydd

Marwolaeth golygu

Bu farw yn Llundain o gymhlethdodau yn codi wedi llawdriniaeth[3]. Roedd yn 65 mlwydd oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent eglwys Norton[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Milbank, Sir Powlett Charles John, (1 May 1852–30 Jan. 1918), JP, DL; Lord-Lieutenant of Radnorshire, 1895; Master of Foxhounds, Radnorshire and West Herefordshire, since 1902." WHO'S WHO & WHO WAS WHO. 2007-12-01. Oxford University Press. Adalwyd 28 Rhagfyr 2017
  2. "THE DUKE OF CLEVELAND'S WILL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1891-08-29. Cyrchwyd 2017-12-28.
  3. "Death of Sir Powlett Milbank - The Brecon County Times Neath Gazette and General Advertiser for the Counties of Brecon Carmarthen Radnor Monmouth Glamorgan Cardigan Montgomery Hereford". William Henry Clark. 1918-02-07. Cyrchwyd 2017-12-28.
  4. "Radnor's Loss - The Brecon Radnor Express Carmarthen and Swansea Valley Gazette and Brynmawr District Advertiser". Robt. Read. 1918-02-07. Cyrchwyd 2017-12-28.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Frank Edwards
Aelod Seneddol Sir Faesyfed
18951900
Olynydd:
Syr Frank Edwards
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
2il Farwn Ormthwaite
Arglwydd Raglaw Sir Faesyfed
1895 - 1918
Olynydd:
3ydd Barwn Ormathwaite