Ashley Williams (pêl-droediwr)

pêl-droediwr

Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Ashley Williams (ganwyd Ashley Errol Williams 23 Awst 1984). Mae'n chwarae i Everton yn Uwchgynghrair Lloegr ac yn gapten ar dîm cenedlaethol Cymru.

Ashley Williams

Williams yn chwarae i Gymru yn 2011
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnAshley Errol Williams[1]
Dyddiad geni (1984-08-23) 23 Awst 1984 (39 oed)
Man geniWolverhampton, Lloegr
Taldra1.83m[1]
SafleAmddiffynnwr
Y Clwb
Clwb presennolStoke City ar fenthyg o Everton
Rhif5
Gyrfa Ieuenctid
West Bromwich Albion
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
2001–2003Hednesford Town60(0)
2003–2008Stockport County162(3)
2008Dinas Abertawe (benthyg)3(0)
2008–2016Dinas Abertawe325(14)
2016-Everton0(0)
Tîm Cenedlaethol
2008–Cymru65(2)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 11 Awst 2016 (UTC).

† Ymddangosiadau (Goliau).

‡ Capiau cenedlaethol a goliau: gwybodaeth gywir ar 11 Awst 2106 (UTC)

Dechreuodd ei yrfa pêl-droed West Bromwich Albion ond ar ôl cael ei ryddhau yn 16-mlwydd-oed, aeth i chwarae'n lled-broffesiynol gyda Hednesford Town. Yn 2003, er nad oedd yn chwarae'n rheolaidd i Hednesford Town, ymunodd â Stockport County. Ym mis Mawrth 2008, aeth ar fenthyg gydag Abertawe ac ar ôl helpu'r Swans i sicrhau dyrchafiad o Adran Un, ymunodd â'r clwb am £400,000.

Ar ôl chwarae 325 o gemau i Abertawe, ymunodd ag Everton ym mis Awst 2016 am £12m.

Mae'n gymwys i chwarae dros Gymru gan fod teulu ei fam yn hannu o'r Gelli[2].

Gyrfa clwb golygu

 
Ashley Williamss yn ystod sesiwn hyfforddi yn Wrecsam

Stockport County golygu

Roedd Williams yn aelod o Academi West Bromwich Albion ond ar ôl cael ei ryddhau yn 16-mlwydd-oed, aeth i chwarae'n lled-broffesiynol gyda Hednesford Town. Yn 2003, er nad oedd yn chwarae'n rheolaidd i Hednesford Town, ymunodd â Stockport County, oedd yn chwarae yn Ail Adran Cynghrair Lloegr ar y pryd.[3]. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru tra'n chwarae dros Stockport

Dinas Abertawe golygu

Ar ôl denu sylw Dinas Abertawe, symudodd i'r Swans ar fenthyg ym mis Mawrth 2008[3] cyn arwyddo cytundeb parhaol ym mis Mehefin 2008 am ffi oddeutu £400,000[4]

Ym mis Gorffennaf 2013, ar ôl bod yn gapten am y rhan fwyaf o gemau Abertawe am y ddau dymor blaenorol, cafodd Williams ei benodi'n gapten parhaol wedi i Garry Monk, oedd wedi bod yn gapten ar y clwb am saith mlynedd, ymddiswyddo o'r rôl.[5]

Everton golygu

Ym mis Awst 2016, symudodd Williams i Everton am ffi oddeutu £12m gan arwyddo cytundeb tair blynedd gyda'r clwb o Lerpwl[6].

Stoke City golygu

Symudodd o i Stoke City ar fenthyg o Everton ar ddechrau tymor 2018-19.

Gyrfa ryngwladol golygu

Mae Williams yn gymwys i chwarae i Gymru oherwydd ei daid sy'n hannu o'r Gelli[2][7]. Cafodd ei gyfle gyda Chymru wedi i gyn reolwr tîm dan-21 Cymru, Brian Flynn ymweld â gêm Stockport County er mwyn gwylio golwr Cymru, Wayne Hennessey, oedd yn chwarae i'r clwb ar y pryd[2].

Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Lwcsembwrg mewn gêm gyfeillgar ym mis Mawrth 2008[8] ac arweiniodd ei wlad am y tro cyntaf mewn buddugoliaeth gyfeillgar 3-0 dros Yr Alban yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd 2009[9]

Ym mis Hydref 2012, cafodd Williams ei benodi'n gapten ar Gymru gan Chris Coleman, yn lle Aaron Ramsey[10] ac arweiniodd Cymru ym Mhencampwriaeth Euro 2016.

Cafodd Williams wobr Chwaraewr y Flwyddyn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru yn 2009.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Hugman, Barry J., gol. (2010). The PFA Footballers' Who's Who 2010–11. Mainstream Publishing. t. 437. ISBN 978-1-84596-474-0.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Swansea City's Ashley Williams: Cardiff City abuse made me laugh but I know I have to prove myself worthy of Wales because I wasn't born here". WalesOnline. 2015-03-23. Unknown parameter |published= ignored (help)
  3. 3.0 3.1 "Swans sign Stockport's Williams". 27 March 2008. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Swans complete Williams signing". Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Ashley Williams made Swansea captain". London: Guardian.co.uk. 15 July 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-07-18. Cyrchwyd 2015-06-20.
  6. "Everton yn arwyddo Ashley Williams o Abertawe". BBC Cymru Fyw. 2016-08-10. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Ashley Williams' mum's pride". 2013-02-24. Unknown parameter |published= ignored (help)
  8. "Luxembourg v. Wales - Welsh Football Online". 2008-03-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  9. "Wales v. Scotland - Welsh Football Online". 2009-11-14. Unknown parameter |published= ignored (help)
  10. "Williams to captain Wales". Unknown parameter |published= ignored (help)
  11. "Sgorio: Williams yw chwaraewr y flwyddyn". 2009-11-12. Unknown parameter |published= ignored (help)
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droediwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.