Cerbyd trydan heibrid
Math o gerbyd heibrid sy'n defnyddio trydan a thanwydd arall (petrol neu ddisl fel arfer) yw'r cerbyd trydan heibrid (hybrid electric vehicle (neu HEV). Ceir ynddo beiriant tanio mewnol (sef yr injan) a modur trydan (neu fotor) i'w yrru. Gellir dweud fod y cerbyd trydan heibrid (neu 'hybrid') yn pontio rhwng cerbydau sy'n defnyddio'r hen danwydd petroliwm a thanwydd glanach, amgen, sef trydan. Oherwydd fod batris yn ddrud ac yn aneffeithiol (yn 2015), roedd cerbydau trydan-yn-unig hefyd yn ddrud ac yn gynnil iawn yn y milltiroedd y gellid eu teithio gydag un gwefriad llawn - oddeutu 70 milltir. Cyfaddawd, neu gam tuag at gar trydan pur, felly, ydy'r cerbyd heibrid trydan.[1]
Math | hybrid vehicle, electric vehicle |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir dewis gyrru'r cerbyd gyda'r naill danwydd neu'r llall: pan ddewisir defnyddio'r motor trydan i'w yrru, mae'n sydyn a pharod o ran ei drorym (torque) a cheir cyflymiad esmwyth iawn. Ymhlith y gwahanol fathau o gerbydau trydan mae: ceir trydan cell danwydd, ceir celloedd solar, ceir trydan batri a cherbydau trydan heibrid. Yn ogystal â cheir trydan heibrid, ceir hefyd faniau, bysiau a mathau eraill o gerbydau heibrid.
Mae'r math yma o gerbyd yn effeithiol yn bennaf oherwydd ei frecio atgynhyrchiol (regenerative braking) sy'n system frecio sydd hefyd yn cynyrchu trydan. Drwy'r system hon mae'r egni cinetig (neu symudol) yn cael ei droi egni trydanol yn hytrach na ffrithiant pan fo'r egni cinetig yn troi'n wres gwastraffus fel a wneir gyda'r cerbyd cnfensiynol. Mae ambell gerbyd heibrid hefyd yn defnyddio ei beiriant tanio mewnol i gynhyrchu trydan er mwyn ail-wefru'r batris neu bweru'r motor.
Hanes
golyguYn 1901 datblygodd Ferdinand Porsche y cerbyd heibrid trydan cynaf drwy'r byd, sef y Lohner-Porsche Mixte Hybrid.[2] Ond ni ddaeth y math hwn o gerbyd yn boblogaidd tan i'r Toyota Prius[3] gael ei greu yn Japan yn 1997, gyda'r Honda Insight yn dynn wrth ei sodlau yn 1999.[4] Poblogeiddiwyd y ceir heibrid dros nos yn dilyn cynnydd ym mhrisiau petroliwm.[5][6]
Gwerthiant
golyguErbyn Medi 2014 roedd 9 miliwn o gerbydau heibrid trydan wedi'u gwerthu ledled y byd, gyda'r cwmni ceir Toyota ar y blaen gyda 7 miliwn uned o'r car Lexus a Honda'n ail (1.3 miliwn uned[7][8] Ford Motor Corporation gyda 375 mil o beibrids wedi'u gwerthu yn UDA erbyn Medi 2014,[8][9] Yn drydydd roedd cwmni Hyundai gyda chyfanswm o 200 mil o geir hybrid trydan. Ym Medi 2014 roedd y car Prius wedi gwerthu cyfanswm o 4.7 miliwn o geir.
-
Toyota Prius 1997–2001 (model NHW10)
-
Honda Insight (math 1) (2000–2006)
-
Toyota Camry Hybrid, 2009
-
Honda Insight, 2010
-
Ford Fusion Hybrid, 2010
-
Toyota Highlander Hybrid, 2011
-
Saturn Vue Green Line
-
Chevrolet Silverado Hybrid, 2005-06
-
BMW Concept 7 Series ActiveHybrid, 2010
2017
golyguYn ôl y cylchgrawn Top Gear (gweler rhifyn Ebrill 2017), y ceir heibrid gorau, drwy'r byd, oedd y canlynol:
Enw | Cwmni | Delwedd | myg (milltir) |
0-60 (eiliad) |
Pris | CO2 (gram/km) |
---|---|---|---|---|---|---|
i3 | BMW | 134 | 4.4 | £104,660 | 49 | |
A3 | Audi | 166.2 | 7.6 | £35,930 | 38 | |
Ioniq | Hyundai | 141 | 10.8 | £19,995 | 79 | |
330e | BMW | 149 | 6.1 | £34,475 | 44 | |
Golf GTE | Volkswagen | 166.0 | 7.6 | £30,635 | 39 | |
Panamera | Porche | 113 | 4.6 | £79,715 | 56 |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "Worldwide Sales of Toyota Hybrids Surpass 10 Million Units" (Press release). Toyota City, Japan: Toyota. 2017-01-14. http://newsroom.toyota.eu/global-sales-of-toyota-hybrids-reach-10-million/. Adalwyd 2017-01-15. "This latest milestone of 10 million units was achieved just nine months after total sales reached 9 million units at the end of April 2016."
- ↑ "History of Hybrid Vehicles". HybridCars.com. 2006-03-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-08. Cyrchwyd 2010-03-21.
- ↑ Toyota Europe News (2013-07-03). "Worldwide Prius sales top 3-million mark; Prius family sales at 3.4 million". Green Car Congress. Cyrchwyd 2013-07-03. Italic or bold markup not allowed in:
|publisher=
(help) - ↑ Matt Lake (2001-11-08). "How it works; A Tale of 2 Engines: How Hybrid Cars Tame Emissions". The New York Times. Cyrchwyd 2010-03-22. Italic or bold markup not allowed in:
|newspaper=
(help) - ↑ Elizabeth Lowery (2007-07-01). "Energy diversity as a business imperative". The Futurist. Cyrchwyd 2010-03-21.
- ↑ Dale Buss and Michelle Krebs (2008-06-03). "Big Three, Big Vehicles Taken to the Watershed in May". Edmunds Auto Observer. Cyrchwyd 2010-03-21.
- ↑ Roger Schreffler (2014-07-14). "Toyota Strengthens Grip on Japan EV, Hybrid Market". Ward's AutoWorld. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-02. Cyrchwyd 2014-04-30. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help) - ↑ 8.0 8.1 Roger Schreffler (2014-08-20). "Toyota Remains Unchallenged Global Hybrid Leader". Ward's AutoWorld. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-10-09. Cyrchwyd 2014-10-04. Honda sold 158,696 hybrids during the first six months of 2014.
- ↑ Will Nichols (2012-06-25). "Ford tips hybrids to overshadow electric cars". Business Green. Cyrchwyd 2012-10-16. By Mehefin 2012 Ford had sold 200,000 full hybrids in the US since (ym Mehefin 2014).