Athaleia
Roedd Athaliah (Hebraeg: עֲתַלְיָה) yn ferch i'r Brenin Ahab a'r Frenhines Jesebel o Israel. Bu'n brenhines gydweddog Jwda fel gwraig y Brenin Joram, un o ddisgynyddion y Brenin Dafydd, ac yn ddiweddarach yn frenhines raglywiol tua. 841–835 CC.
Athaleia | |
---|---|
Ganwyd | c. 898 CC Samaria |
Bu farw | c. 835 CC o summary execution Jeriwsalem |
Dinasyddiaeth | Cymeriad Beiblaidd |
Galwedigaeth | llywodraethwr |
Swydd | Teyrn Jwda, brenhines cyflawn |
Prif ddylanwad | Baʿal |
Tad | Ahab |
Mam | Jesebel |
Priod | Joram Brenin Jwda |
Plant | Ahasia Brenin Jwda |
Llinach | Omri |
Naratif Beiblaidd
golyguMae cyfrifon am fywyd Athaleia i’w cael yn 2 Brenhinoedd 8:16 - 11:16 [1] a 2 Cronicl 22:10 - 23:15 [2] yn yr Hen Destament. Ystyrir ei bod yn ferch i'r Brenin Ahab a'r Frenhines Jesebel o Israel. Daeth Athaleia yn briod â Joram Brenin Jwda i selio cytundeb rhwng teyrnasoedd Israel a Jwda, ac i sicrhau ei swydd lladdodd Joram ei chwe brawd.[3] Daeth Joram yn frenin ar Jwda yn y bumed flwyddyn o deyrnasiad Joram Brenin Israel [4]. Roedd Joram Brenin Israel yn frawd i Athaleia (neu ei nai o bosib).
Teyrnasodd Joram dros Jwda am wyth mlynedd. Roedd ei dad Jehosaffat a'i daid Asa yn frenhinoedd defosiynol a oedd yn addoli'r ARGLWYDD ac yn cerdded yn ei ffyrdd. Fodd bynnag, dewisodd Joram beidio â dilyn eu hesiampl a gwrthododd yr ARGLWYDD a phriodi Athaleia, merch Ahab yn llinell Omri. Roedd rheolaeth Joram dros Jwda yn sigledig. Gwrthryfelodd Edom, a gorfodwyd ef i gydnabod ei annibyniaeth.[5] Fe wnaeth cyrch ar Jwda gan Philistiaid, Arabiaid ac Ethiopiaid ysbeilio tŷ'r brenin, a chludo ei deulu i gyd heblaw am ei fab ieuengaf, Ahaseia .
Ar ôl marwolaeth Joram, daeth Ahaseia yn frenin ar Jwda, ac roedd Athaleia yn fam frenhines. Teyrnasodd Ahaseia am flwyddyn pan oedd yn 22 mlwydd oed [6] a chafodd ei ladd yn ystod ymweliad gwladol ag Israel ynghyd â Joram Brenin Israel. Llofruddiodd Jehu y ddau yn enw'r ARGLWYDD a daeth yn frenin Israel. Cafodd deulu estynedig cyfan Athaelia yn Samaria ei roi i farwolaeth, gan ddod â llinach Omri yn Israel i ben.
Wrth glywed y newyddion am farwolaeth Ahaseia, cipiodd Athaleia orsedd Jwda a gorchymyn dienyddio pob hawliwr posib i’r orsedd,[7][8] gan gynnwys gweddillion llinach Omri, sef ei llinach ei hun. Fodd bynnag, llwyddodd Joseba, chwaer Ahaseia, i achub Joas, mab (o bosib, ŵyr) i Athaleia a Joram Brenin Jwda, a oedd ond yn flwydd oed. Codwyd Joas yn ddirgel gan ŵr Joseba, offeiriad o’r enw Jehoiada .
Fel "brenhines gamfeddianol",[9] defnyddiodd Athaleia eigrym i sefydlu addoliad Baal yn Jwda. Chwe blynedd yn ddiweddarach, synnodd Athaleia pan ddatgelodd Jehoiada fod Joas yn byw a'i gyhoeddi'n frenin Jwda. Rhuthrodd i atal y gwrthryfel, ond cafodd ei chipio a'i ddienyddio.[10][11]
Dyddio ei theyrnasiad
golyguDyddiodd yr archeolegydd Beiblaidd Americanaidd, William F. Albright, ei theyrnasiad i 842-837 CC, tra bod yr athro ar astudiaethau'r Hen Destament, Edwin R. Thiele, yn nhrydydd argraffiad ei lyfr The Mysterious Numbers of the Hebrew Kings yn dyddio ei theyrnasiad o 842/841 i 836/835 CC.[12] Fodd bynnag, mae dyddiad cychwyn o 842/841 ar gyfer teyrnasiad Athaleia yn flwyddyn cyn y dyddiad 841/840 a roddodd Thiele ar gyfer farwolaeth ei mab, y Brenin Ahasiea.
Mewn llenyddiaeth
golyguYm 1691, ysgrifennodd yr awdur Ffrengig Jean Racine ddrama am y frenhines Feiblaidd hon, o'r enw Athalie . Ysgrifennodd y cyfansoddwr Almaeneg Felix Mendelssohn, ymhlith eraill, gerddoriaeth atodol (ei opws 74) i ddrama Racine, a berfformiwyd gyntaf ym Merlin ym 1845. Teitl un o'r darnau a glywir amlaf o gerddoriaeth Mendelssohn yw Kriegsmarsch der Priester (Gorymdaith Ryfel yr Offeiriaid).[13]
Ym 1733, cyfansoddodd y cerddor a'r cyfansoddwr Handel oratorio yn seiliedig ar ei bywyd, o'r enw Athalia, gan ei galw'n "Frenhines Baal-Addolgar Jwda, Merch Jesebel". Baal oedd duw ffrwythlondeb y Canaaneaid, y byddai'r hen Israeliaid yn aml yn ei addoli yn yr Hen Destament.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- Lle fo cyfeiriad yn destun Beiblaidd, bydd dilyn y cysylltiad yn mynd at rifyn Beibl William Morgan Cymdeithas Feiblaidd Prydain a Thramor, 1992 ar wefan Bible Gateway. Am destun mwy cyfoes gellir chwilio am yr un adnodau ar dudalen chwilio Beibl Net
- ↑ 2 Brenhinoedd 8:16 - 11:16
- ↑ 2 Cronicl 22:10 - 23:15
- ↑ Jewish Encyclopedia, "Jehoram"
- ↑ 2 Brenhinoedd 8:16
- ↑ Platts, John. A New Universal Biography, Vol.I, p.156, Sherwood, Jones and Co., 1825
- ↑ 2 Brenhinoedd 8:26
- ↑ 2 Brenhinoedd 11:1
- ↑ "Athaliah: Bible - Jewish Women's Archive". jwa.org.
- ↑ Mathys, H. P., 1 and 2 Chronicles in Barton, J. and Muddiman, J. (2001), The Oxford Bible Commentary Archifwyd 2017-11-22 yn y Peiriant Wayback, p. 297
- ↑ 2 Brenhinoedd 11:14
- ↑ 2 Cronicl 23:12-15
- ↑ Edwin R. Thiele, The Mysterious Numbers of the Hebrew Kings (3ydd argraffiad.; Grand Rapids, MI: Zondervan/Kregel, 1983).
- ↑ Classical Archives' All Music Guide.