Bae Caergybi

bae yn Ynys Môn

Bae ym Môr Iwerddon yw Bae Caergybi[1] (Saesneg: Holyhead Bay), a leolir oddi ar arfordir gogledd-orllewin Ynys Môn, Cymru. Fe'i enwir ar ôl tref Caergybi.

Bae Caergybi
Mathbae Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3667°N 4.6667°W Edit this on Wikidata
Map

Ymestyn y bae hwn o ben ogleddol Ynys Gybi yn y de-orllewin ar draws i bentir Trwyn y Gader ger Llanfair-yng-Nghornwy yn y gogledd-ddwyrain. Ei lled o Ynys Arw i Drwyn y Gader yw tua 9 milltir. Mae Traeth y Gribin yn ne'r bae. Allan yn y môr ar ei ymyl ogleddol, ond heb fod yn y bae ei hun, ceir Ynysoedd y Moelrhoniaid.[2]

Mae'r bae yn cynnig cysgod ym Môr Iwerddon i longau ac yn enwedig i borthladd Caergybi lle ceir gwasanaethau fferi drosodd i Iwerddon.

Yn ogystal â thref Caergybi, ceir y pentrefi a chymunedau canlynol ar lan y bae neu'n agos iddo: Llanfachraeth, Llanfaethlu, Rhydwyn, Llanfair-yng-Nghornwy (Cylch-y-Garn).

Cyfeiriadau

golygu
  1. Atlas Môn (Llangefni, 1972).
  2. Map OS 1:50,000 Ynys Môn.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato