Rhydwyn

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan gwledig yng nghymuned Cylch y Garn ar Ynys Môn yw Rhydwyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ) (weithiau Rhyd-wyn). Saif yng ngogledd yr ynys ym mhlwyf Llanrhuddlad, tua milltir i'r gorllewin o'r pentref hwnnw a milltir o fae Porth Swtan ar yr arfordir i'r gorllewin. Milltir a hanner i'r de ceir pentref Llanfaethlu. Mae 142.5 milltir (229.4 km) o Gaerdydd a 225.7 milltir (363.3 km) o Lundain.

Rhydwyn
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.4°N 4.5°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Ystyr yr enw yw 'rhyd Gwyn' (enw personol). Gellir cyrraedd y pentref trwy troi oddi ar yr A5025 ger Llanrhuddlad neu Lanfaethlu.

Cynrychiolaeth etholaethol golygu

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Virginia Crosbie (Ceidwadwyr).[2]

Trigolion golygu

Mae dyddiadur ffermio Sadrach Thomas o Rydwyn (1965) wedi ei roi ar gof a chadw yn Nhywyddiadur gwefan Llên Natur[1]

Digwyddiadau naturiol golygu

  • Cofiai John (Sion) Richards pan yn tua 12 oed (tua 1937), i donnau`r mór ddod a thunnelli o fuchod cwta i`r lan a`u gadael yn un rhimyn hir ar y penllanw ar draeth Rhydwyn. Soniodd amdanynt yn luminous yn eu niferoedd ac yn amlwg bu i`r digwyddiad aros yn fyw yn y cof.[3] (Roedd mis Awst 1937 yn boeth a thrymedd, amodau ffafriol i'r ffenomenon hwn)

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. John Richards (rhan o sgwrs wedi ei arall eirio gan Duncan Brown i Llên Natur)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato