Balli Kombëtar

Ffrynt Genedlaethol Albania Ail Ryfel Byd, Albania Fawr

Roedd y Balli Kombëtar (Ffrynt Genedlaethol) yn fudiad genedlaethol Albanaidd gwrth-gomiwnyddol a sefydlwyd ym mis Tachwedd 1942, gan Ali Këlcyra a Midhat Frashëri. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ymladdodd yn gyntaf yn erbyn yr Eidal Mussolini ac yn ddiweddarach yn erbyn meddianwyr Natsiaid yr Almaen yn Albania. Fodd bynnag, cydweithiodd rhannau o'r Balli Kombëtar â phwerau'r Echel hefyd. Ar dir Gwlad Groeg ac Iwgoslafia, rhoddon nhw gymorth i'r fyddin Almaenig, y Wehrmacht i ymladd y Comiwnyddion y tu mewn i'r wlad ac yn erbyn y Iwgoslafiaid.

Bwriad y Balli Kombëtar oedd uno'r holl Albaniaid ethnig mewn un wladwriaeth annibynnol, yr hyn a elwir yn Albania Fawr, ond a elwir gan yr Albanaidid yn Shqipëria Etnike (Albania Ethnig). Roedd y wladwriaeth yma i gynnwys, Albania, parthau Albanaidd dros y ffin ym Montenegro, Cosofo, ardaloedd Albanaidd gorllewin Macedonia ac Epirus yng Ngwlad Groed. Am gyfnod rhwng 1941-44 roedd 'Albania Fawr' yn realiti wrth i'r Eidalwyr ac yna, wedi cwymp yr Eidal, yr Almaen, gefnogi ac arddel y diriogaeth yma.

Gwladwriaeth Byped Albania a sefydlwyd gan yr Eidal yn 1941, tiroedd a ystyrir yn Albania Fawr gan nifer

Er i'r Balli Kombëtar wrthwynebu'r Eidalwyr, mae'n eironig feddwl mai dim ond oherwydd concwest yr Eidal o Albania a'r Almaen o Iwgoslafia yn 1941 y llwyddwyd i uno'r Albaniaid mewn un gwladwriaeth am y tro cyntaf erioed yn y cyfnod modern. O ganlyniad i hyn, mae gan nifer o Albaniaid deimladau cymysg am gyfnod yr Ail Ryfel Byd.

Daliadau golygu

 
Uned o'r Balli Kombëtar yn gorymdeithio yn Prizren (1944)

Plaid a mudiad geidwadol wleidyddol ond gweriniaethol oedd y Balli Kombëtar. Roeddynt yn ffafriol i rai diwygiadau economaidd a chymdeithasol. Fe'i crëwyd ym mis Medi 1942 gan Ali Klissura a Midhat Frashëri (1882-1949) a arweiniodd y blaid a'r mudiad yn ystod y rhyfel.

Ail Ryfel Byd golygu

 
Confensiwn Ballistiaid yn Tetovo 1944 (canol chwith Xhem Hasa)

Roedd y PBK yn rhan o'r Mudiad Rhyddid Cenedlaetho yr LNÇ (Lëvizje nacionalçlirimtare yn Albaniaidd) a grëwyd ar 16 Medi 1942 yn y Gynhadledd Ryddfrydol gyntaf ym Pezë. Roedd yr LNÇ yn gynghrair eang iawn oherwydd yr amgylchiadau gan gynnwys comiwnyddion a brenhinwyr yn ffyddlon i'r Zog, Brenin Albania. Pan gipiodd y Comiwnyddion awenau'r mudiad ar ddiwedd 1943 fe adawodd y Ballistiaid a'r brenhinwyr. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, o dan nawdd gwladwriaeth byped Albania Fawr gwnaethpwyd Albaneg yn iaith gweinyddiaeth ac addysg a mabwysiadwyd y Franc Albanaidd.

Wedi i'r Eidal ildio yn y Rhyfel ym mis Medi 1943, ymladdodd y pleidiau yn erbyn cefnogwyr y Comiwnydd Enver Hoxha yn ystod y rhyfel cartref am reolaeth y wlad. Yn y cythrwfwl yma cydweithiodd rhai grwpiau Ballist gyda'r Natsïaid. Yn Hydref 1944 gyda buddugoliaeth y Comiwnyddion, ffodd arweinwyr y Balli Kombetar a gyhuddwyd o gydweithio gyda'r Natsïaid dramor neu cawsont eu lladd.[1]

Llwyddodd y Ballists a'r Zogyddion gadw rheolaeth ar rannau o ogledd Albania ar ôl 1945 a parhaodd y gwrthwynebiad arfog i Enver Hoxha a'i gyfundrefn gomiwnyddol tan yr 1950au.

Wedi'r Ail Ryfel Byd golygu

Yn Efrog Newydd a Llundain yn 1949 sefydlodd y Zogiaid, Ballistiaid a'r brodyr Kryeziu (Gani, Said a Hasan) Pwyllgor Albania Rydd. Y bwriad oedd disodli llywodraeth gomiwnyddol Enver Hoxha yn Albania. Cafwyd cefnogaeth yr MI6 a'r CIA i weithredu prosiect disodli yma a alwyd yn 'Valuable'. Mae'r operaswn hon yn cynnwys hyfforddi ffoaduriaid Albaniaidd (a alwyd yn "pixies" gan MI6) ym Malta gan y Cyrnol David Smiley. Methu yr Operasiwn gan iddo gal ei danseilio a'i fradychu i'r Sofietiaid gan yr asiant ddwbl, Kim Philby.

Midhat Frashëri (1882-1949), un o dadau y frwydr dros annibyniaeth Albania yn 1913 oedd hefyd un o arweinyddion y Balli Kombëtar yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ym mis Gorffennaf 1949 fe'i penodwyd yn Gadeirydd Pwyllgor Albania Rydd. Bu farw o drawiad ar y galon mewn amgylchiadau amheus ar fore 3 Hydref 1949, yn union fel y daeth y glaniodd y tîm cyntaf o filwyr gwrth-Gomiwnyddol ar arfordir ei wlad.

Y Balli Kombëtar Heddiw golygu

Mae plaid Partia Balli Kombëtar Shqiptar yn dal i fodoli ac yn cymryd rhan yn rheolaidd yn yr etholiadau democrataidd a ddilynodd cwymp y gyfundrefn Staliniaid Albanaidd.

Roedd dinas Tetovo ym Macedonia yn un o ganolfanau fwyaf y Balli Kombëtar ac mae pobl yno dal i arddel cysylltiad gyda'r enw a'r etifeddiaeth. Mae gan glwb pêl-droed Tetovo, KF Shkendija gefnogaeth pybur a elwir yn Ballistët. Maent yn adnabyddus ymysg cyfryngau Macedonia am ei rhethreg cenedlaetholaidd cryf.[2]

Delweddau golygu

Llyfryddiaeth golygu

  • Illyrian venture: The story of the British military mission to enemy-occupied Albania, 1943-44 – Editions Bodley Head - 1952. Les mémoires du colonel Edmund "Trotsky" Davies.
  • Albanian Assignment de David Smiley - Chatto & Winders - Londres - 1984 ISBN 0701128690 Préface de Patrick Leigh Fermor
  • Sons of the Eagle. A Study in Guerilla War de Julian Amery - 1948 – Éditions Macmillan & C° Ltd, Londres.
  • No Colours or Crest de Peter Kemp - 1958 - Cassell - Londres
  • An Englishman in Albania du colonel Dayrell Oakley-Hill - The Centre for Albanian Studies - Learning Design Limited - Londres - 2002 ISBN 1-903616-20-4. Préface du colonel David Smiley
  • Albania at War, 1939-1945 de Bernd J. Fischer, West Lafayette, Purdue University Press, 1999
  • Stephen Dorril MI6: Inside the Covert World of Her Majesty's Secret Intelligence Service - The Free Press - New York - 2000 ISBN 0-7432-0379-8. Toutes le opérations du MI6 sont détaillées. Index en ligne Archifwyd 2008-12-04 yn y Peiriant Wayback.

Cyfeiriadau golygu

  1. Robert Elsie Historical dictionary of Albania 2010 p. 30 éd. Scarecrow Press (ISBN 978-0-8108-7380-3)
  2. Filip Zdraveski. "Shkendija fined, their fans can't go to away games". Cyrchwyd 16 June 2011.