Agor y brif ddewislen

Tetovo (Macedoneg:Тетово, {{IPA Macadoneg:ˈtɛtɔvɔ, {{Albaneg: Tetovë/Tetova; Twrceg: Kalkandelen) - dinas yng ngogledd orllewin Gogledd Macedonia sydd wrth droed mynyddoedd y Šar a'r afon Pena yn llifo drwyddi. Mae bwrdeisdref Tetovo yn 1080km2 ac ar uchder o 468m uwchben lefel y môr. Ei phoblogaeth yw 52,915.[1] Dinas Tetovo yw sedd Bwrdeisdref tetovo. Mae prifddinas Macedonia, Skopje 86 km i'r dwyrain , Prishtina a phrifddinas Cosofo 63 km i'r gogledd o bellter o'r ddinas. Tetovo yw prifddinas answyddogol yr ardal Albaneg ym Macedonia sy'n ymestyn fel arch ar hyd ochr orllewinnol y wladwriaeth o gyffiniau'r prifddinas, Skopje i lyn Ohrid.[2][3]. Mae'n gartref i'r Blaid Genedlaethol Ddemocrataidd, plaid genedlaetholaidd Albanaidd.[2]

Tetovo
Тетово
Tetovë
Kalkandelen
Stadtzentrum Tetovo.jpg
Canol Tetovo, 2015
Baner Tetovo
Baner
Arfbais Tetovo
Arfbais
Location in Northwestern Macedonia.
Location in Northwestern Macedonia.
[[File:Nodyn:Location map Republic of Macedonia|210px|Tetovo is located in Nodyn:Location map Republic of Macedonia]]
<div style="position: absolute; z-index: 2; top: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; left: Gwall mynegiad: Heb adnabod y nod atalnodi "[".%; height: 0; width: 0; margin: 0; padding: 0;">
<div style="font-size: 90%; line-height: 110%; position: relative; top: -1.5em; width: 6em; Gweithredydd < annisgwyl">Tetovo
Location within Republic of Macedonia
Cyfesurynnau: Script error: The function "coordinsert" does not exist.
Country  Macedonia
Municipality Tetovo Municipality
Llywodraeth
 • Maer Teuta Arifi (Undeb Democrataidd dros Gydfyw, DUI)
Arwynebedd
 • Cyfanswm 1,068 km2 (412 mi sg)
Uchder 468 m (1,535 tr)
Poblogaeth (2002)[1]
 • Cyfanswm 52,915
Parth amser CET (UTC+1)
 • Summer (DST) CEST (UTC+2)
Postal code 1200
Cod ffôn +389 044
Car plates TE
Climate Cfb
Website tetovo.gov.mk
.

EtymolegGolygu

Yn ôl y chwedl Slafeg, golyga Tetovo "Lle Tetoo". Arwr chwedlonol oedd Tetoo a waredodd y dref o nadroedd.

Etymoleg arall i'r enw yw ei fod yn tarddu o'r gair Slafeg "hteti" sy'n golygu eisiau. O'r herwydd, mae'r enw Tetovo yn dod o hyd i fod yn heibio Htetovo neu "lle rydym ni eisiau byw". Roedd yr / h / cychwynnol yn cael ei golli yn rheolaidd yn Macedoneg. Mae'r amrywiant Albaneg yn addasiad uniongyrchol o'r enw Slafeg (gweler -ovo / -evo).

Dywedir hefyd fod y gair yn dod o'r Albaneg tet (wyth) ac ov (brwydr) wedi i'r trigolion Albanaidd gipio'r dref mewn wyth brwydr yn 1435.

Enw'r ddinas yn y Twrceg yw Kalkandelen.

DemograffegGolygu

Mae gan Tetovo boblogaeth o 52,915 (Cyfrifiad: 2002).[4] Maent yn byw mewn 12,920 preswylfa gyda 4 peson ar gyfartaledd mewn preswylfa. Ethnigrwydd

  • 28,897 (neu 54.61%) yn Albaniaid
  • 18,555 (35.07%) yn Macedoniaid Slaf
  • 2,352 (4.44%) yn Roma
  • 1,878 (3,55%) yn Twrciaid brodorol
  • 587 (1,12%) yn Serbiaid
  • 156 (0.29%) yn Bosnaciaid Slaf
  • 490 (0.92%) o genedligrwydd arall.

Mamiaith

  • 29,363 (55.49%) Albaneg
  • 18,980 (35.89%) Macedoneg
  • 2,078 (3.93%) Twrceg
  • 1,600 (3.02%) Romani
  • 378 (0.71%) Serbeg
  • 516 (0.96%) yn siarad mamiaith arall.

Crefydd

HanesGolygu

Hanes CynnarGolygu

Gellir dod o hyd i olion cyntaf anheddiad dynol yn y ddinas o'r hynafiaeth. Ei enw yn ystod y cyfnod Rhufeinig oedd Euneum o fen talaith Illyricum. Canfuwyd cerflun hynaf y rhanbarth yn Tetovo yn 1933, sef efydd 9 cm o hyd a 4 cm o led o'r 6g CC. Dyma'r canfyddiad archeolegol hynaf yn y rhanbarth. Mae bellach yn amgueddfa ddinas.[5]

Ymerodraeth OtomanaiddGolygu

 
Tetovo 1913

Concrwyd y dref gan Ymerodraeth Otomoanaidd ar ddiwedd 15g wedi marwolaeth yr arweinydd Albanaidd, Skanderbeg. Galwyd y drefn yn Kalkandelen gan y Twrciaid. Nodwyd ganddynt fod y dref yn y 15g yn cynnwys masnachwyr a chreffrwyr ac wedi tyfu ers y goncwest. Yn 1470, ysgrifennodd teithiwr Twrcaidd fod Tetovo yn dechrau edrych fel dinas. Cyfeirir at Tetovo fel "dinas" ar y tro cyntaf yn 1689.[6]. Yn ystod y cyfnod Otomanaidd sefydlwyd canolfannau diwylliannol pwysig, gan gynnwys llyfrgell Arabati-Tekke o'r 18g a'r 19g, Hammam (baddon Twrcaidd) a'r Mosg Liwgar.[7]. Yn ystod teyrnasiaid yr Otomaniaid roedd Tetovo yn rhan o Vilayet (talaith) Cosofo.

Chwraeodd Tetovo ei rhan yn nhwf yr ymdeimlad genedlaethol a welwyd yn y Balcan trwy gydol y 19g. Yn 1844 cafwyd gwrthryfel Albaniaid erbyn gor-ganoli a threthi uchel yr Ymerodraeth Otomanaidd. Ar ôl y gorchfygiad y gwrthryfel, carcharwyd llawer o ddinasyddion Albaneg Tetovo neu eu halltudio i Asia Leiaf.[8]

Ers y Rhyfel MawrGolygu

Gyda cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd cipiwyd y ddinas gan yr Albaniad, Hassan Prishtina, ond bu ymgiprys rhwng yr Albaniaid, Serbiaid a Bwlgariaid am y ddinas (a Macedonia). Erbyn diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf daeth Macedonia yn rhan o wladwriaeth newydd Iwgoslafia. Daeth y ddinas yn rhan o Banovina (talaith) Vardar o 1929 i 1941.

 
Pwyllgor Genedlaethol Albania yn cwrdd yn ninas Tetovo, 1944 (canol chwith, Xhem Hasa a canol dde, Mefail Shehu)

Yn 1941 meddiannwyd Iwgoslafia gan bwerau'r Echel (Axis) a daeth Tetovo o dan reolaeth Albania Fawr a sefydlwyd o dan caniatâd Mussolini gyda'r Balli Kombëtar yn rheoli gyda chefnogaeth milwrol ac ariannol Ffasgwyr yr Eidal a Natsiaid yr Almaen. Codwyd baner Albania, daeth y Franc Albanaidd yn arian swyddogol ac Albaneg oedd iaith swyddogol y weinyddiaeth ac addysg. Gyda'r rhod yn troi yn y Rhyfel, sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol Macedonia gan y Serbiaid ar 19 Mawrth 1943 yn Tetovo ond roedd Plaid Gomiwnyddol Albania eisoes wedi ei sefydlu yn y dref. Er gwaethaf buddugoliaeth y Cadfridog Tito a Chomiwnyddion Iwglosalfia yn y rhyfel, roedd cefnogwyr y Balli Kombëtar yn parhau yn y ddinas a parhawyd i ymladd nes 1948.

Er i tai a ffyrdd cael eu codi yn ystod y cyfnod Comiwnyddol, gwelwyd gwrthdaro cyson rhwng Albaniaid yn Tetovo a'r awdurdodau Slaf Comiwnyddol. Yn 1968 mynnodd Albaniaid Tetovo bod ardaloedd Albaniaid Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia yn cael eu hatodi i Cosofo a'u cyd-drefnu ar y cyd fel seithfed weriniaeth Iwgoslafia.[9]. Gwrthododd yr awdurdodau hyn ond yn ei le, cytunwyd i awdurdodi'r gwaith o adolygu meysydd llafur a gwerslyfrau er mwyn rhwystro'r hyn a elwir yn "Treiddiad tueddiadau Albanaidd cenedlaetholaidd, iredentaidd a gwrth-chwyldroadol drwy llyfrau testun print a llenyddiaeth." Yn 1974, cadarnhaoedd y cyfansoddiad ffederal a lleihawyd y tensiwn.

DelweddauGolygu

Nodyn:Message galerie

CyfeiriadauGolygu

  1. 1.0 1.1 2002 Census results
  2. 2.0 2.1 Cook, Bernard A. (2001). Europe since 1945: an encyclopedia. Taylor & Francis. pp. 814–. ISBN 9780815340584.
  3. Trankova, Dimana (2011). "Tito, Teto and Some Troubled Tourism Await You in Tetovo, Macedonia". Balkan Traveller.
  4. 4.0 4.1 Nodyn:Internetquelle
  5. Menada e Tetovës
  6. (Saesneg) Site de la municipalité - Histoire
  7. Vështrimi historik in: tetova.gov.mk (albanisch, englisch und mazedonisch), zuletzt abgerufen am 8. Februar 2012
  8. Miranda Vickers (2008), "Vazhdimi i shpërbërjes së Perandorisë Osmane" (yn Saesneg), Shqiptarët - Një histori moderne [The Albanians - A Modern History], Xhevdet Shehu (trans.), Bota Shqiptare, pp. 48, ISBN 978-99956-11-68-2
  9. Ramet, Sabrina P. (1997). Whose Democracy?: Nationalism, Religion, and the Doctrine of Collective Rights in Post-1989 Eastern Europe. 4720 Boston Way, Lanham, Maryland 20706: Rowman & Littlefield Publishers, Inc. p. 78. ISBN 0 8476 8324 9. Cyrchwyd 2014-09-13.