Baner Belîs
Mabwysiadwyd baner Belîs (baner Belize) ar 21 Medi 1981 yn dilyn annibyniaeth y wlad yng Nghanolbarth America o'r Deyrnas Unedig. Cyn annibyniaeth adnabwyd y wlad fel Hondwras Brydeinig. Mae'n cael ei ffinio i'r gorllewin gan wlad Gwatemala sy'n hawlio hanner tiriogaeth ddeheuol Belîs.
DyluniadGolygu
Mae baner Belîs yn las, gyda dwy stribed llorweddol coch ar y pennau a disg gwyn yn y canol. Lleolir yr arwyddlun genedlaethol o fewn y ddisg gwyn. Mae'r faner yn ddatblygiad o'r faner Honduras Prydeinig flaenorol (enw'r enw Belice ar y blaen), a sefydlwyd yn 1950 pan enillodd Honduras Prydain peth hunanlywodraeth oddi ar Brydain. Ychwanegwyd y ddau stribedi coch i'r dyluniad gwreiddiol yn dilyn yr olaf.
Mae arfbais Belîs yn cynnwys delwedd o ddau ddyn, un mestizo ac un o dras Affricanaidd yn cefnogi'r darian. Dyma unig faner i gynnwys delwedd o ddau ddyn arni, er, ceir baneri eraill ag un dyn arni, megis baneri Malta, threfedigaethau Brydeining Montserrat a Baner Ynysoedd Virgin Prydain a Polynesia Ffrengig hefyd â dynion neu fynywod arnynt.[1] Ceir y geiriau Lladin, Sub Umbra Floreo, sef "Ffynnaf o dan y Cysgod".
Baner CyfleustraGolygu
Caiff y faner ei chwifio fel baner cyfleustra gan longau ar draws y byd.
Baneri EraillGolygu
Hen FaneriGolygu
CyfeiriadauGolygu
Dolenni allanolGolygu
- Baner Belîs Archifwyd 2012-08-12 yn y Peiriant Wayback.
- Baner Belîs
- Vexilla-Mundi