Mabwysiadwyd baner Syria ar 29 Mawrth, 1980, ar ôl cael ei defnyddio fel baner y Weriniaeth Arabaidd Unedig (Syria a'r Aifft) o 1958 i 1961. Mae'n cynnwys stribedi coch, gwyn a du, gyda sêr gwyrdd, sydd i gyd yn lliwiau pan-Arabaidd. Yn wreiddiol, bu'r ddwy seren yn cynrychioli Syria a'r Aifft, ond nawr dywedir eu bod yn cynrychioli Syria ac Irac.

Baner Syria
Enghraifft o'r canlynolbaner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Daeth i ben28 Medi 1961 Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch, gwyn, du, gwyrdd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu22 Chwefror 1958 Edit this on Wikidata
GenrePan-Arab colors flag, horizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Syria

Yn 1920, pan oedd dal yn drefedigaeth Ffrengig, defnyddiodd Syria baner drilliw o wyrdd, gwyn a gwyrdd, gyda baner Ffrainc yn y canton. Yn dilyn annibyniaeth newidiwyd hyn i faner drilliw gwyrdd, gwyn a du gyda thair seren goch yn ei chanol (i gynrychioli tair talaith Syria). Mabwysiadwyd y faner gyfredol (ond gyda thair seren) pan cyfunodd Syria â'r Aifft, ond dychwelodd i'r hen faner ar ôl gadael yr undeb yn 1961.

Ffynonellau golygu

  • Complete Flags of the World (Dorling Kindersley, 2002)
  Eginyn erthygl sydd uchod am Syria. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato