Baner y Groes
cyfnodolyn
Cylchgrawn Cymraeg yr Eglwysig Sefydliedig yng Nghymru oedd Baner y Groes [1], ac fe'i paratowyd yn bennaf ar gyfer plant a phobl ifanc. Roedd yn cynnwys pynciau crefyddol a chyffredinol ei gyfnod, sef y flwyddyn 1854. Y clerigwr a'r hynafiaethydd John Williams (Ab Ithel, 1811-62) oedd golygydd cyntaf y cylchgrawn, cyn fyfyriwr o Goleg Iesu, Rhydychen, ac un a ddylanwyd arno am gyfnod gan Fudiad Rhydychen (tua 1833-1841). Ar ei ail wynt yn ddiweddarach fel pe tae, gyfs 'CyfresNewydd' o 1870, daeth Robert Isaac Jones (Alltud Eifion, 1815-1905), fferyllydd ac argraffydd, i olygu'r cylchgrawn ar ei newydd wedd ac o dan yr un enw. Cyhoeddwyd yn Llundain a Threffynnon.
Enghraifft o'r canlynol | cyfnodolyn, cylchgrawn |
---|---|
Golygydd | John Williams (Ab Ithel), Robert Isaac Jones, Jabez Edmund Jenkins, William Thomas |
Gwlad | Lloegr |
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1854 |
Lleoliad cyhoeddi | Llundain |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Cyfeiriadau
golyguDolenni allanol
golygu- Baner Groes ar wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein