Barbara Hambly
Awdures Americanaidd yw Barbara Hambly (ganwyd 28 Awst 1951) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel sgriptiwr, nofelydd ac awdur ffuglen wyddonol, dirgelwch, ffuglen hanesyddol a ffantasi. Gwasanaethodd Hambly fel Llywydd Cymdeithas Awduron Ffuglen Wyddonol a Ffantasi America rhwng 1994 a 1996.
Barbara Hambly | |
---|---|
Ffugenw | Barbara Hamilton |
Ganwyd | 28 Awst 1951 San Diego |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, sgriptiwr, nofelydd, awdur ffuglen wyddonol |
Arddull | ffantasi |
Gwobr/au | Julia-Verlanger Award, Locus Award for Best Horror Novel |
Gwefan | http://www.barbarahambly.com |
Fe'i ganed yn San Diego ar 28 Awst 1951. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Bordeaux III, Prifysgol California, Riverside.[1][2][3]
Y Llenowr
golyguMae ganddi gyfres ddirgelwch hynod boblogaidd yn cynnwys dyn lliw, rhydd, cerddor a meddyg, yn New Orleans yn y blynyddoedd antebellum. Ysgrifennodd nofel hefyd am Mary Todd Lincoln. Lleolir ei nofelau ffuglen wyddonol o fewn yrhyn a elwir yn aml-ofod (multiverse), yn ogystal ag o fewn lleoliadau a oedd eisoes yn bodoli (e.e. Star Trek a Star Wars). [4]
Y dyddiau cynnar
golyguEr iddi gael ei geni yn San Diego, California yn Montclair, California y cafodd ei magu. Tarddai ei rhieni, Everett Edward Hambly Jr. a Florence Elizabeth (Moraski) Hambly, o Fall River, Massachusetts; a Scranton, Pennsylvania (respectively).
Mae ganddi chwaer hŷn, Mary Ann Sanders, a brawd iau, Everett Edward Hambly, III. Yn ei harddegau cynnar, ar ôl darllen The Lord of the Rings gan J. R. R. Tolkien, gosododd luniau o ddreigiau ar ddrws ei hystafell wely. Ers yn ifanc iawn, dechreuodd ymddiddori mewn gwisgoedd, ac ymddiddorodd am gyfnod hir iawn yng ngwaith y Society for Creative Anachronism. Yng nghanol y 1960au, treuliodd y teulu Hambly flwyddyn yn Awstralia.
Derbyniodd Hambly radd Meistr mewn Hanes yr Oesoedd Canol o Brifysgol California, Riverside. Cwblhaodd ei gradd yn 1975 a threuliodd flwyddyn yn Bordeaux fel rhan o'i hastudiaethau.
Bu'n briod am rai blynyddoedd i George Alec Effinger, awdur ffuglen wyddonol, ond bu farw yn 2002. Mae Hambly yn byw yn Los Angeles. Mae'n siarad yn rhydd am y ffaith ei bod yn dioddef o anhwylder affeithiol tymhorol (seasonal affective disorder), na chafodd ei ddadansoddi a'i drin am flynyddoedd.
Y llenor
golyguMae gan waith Hambly sawl thema a daw ei hoffter o gymeriadau anarferol, gwahanol o fewn y genre ffantasi i'r golwg dro ar ôl tro e.e. y wrach menoposal (diwedd y mislif) a'r arglwydd ysgolheigaidd yn y drioleg Winterlands, neu'r asiant cudd yn ei nofelau ar fampirod.[5]
Er bod hud a lledrith yn bodoli mewn llawer o'i gwaith, nid yw'n cael ei ddefnyddio fel ateb hawdd ond mae'n dilyn rheolau ac yn cymryd ynni o'r dewiniaid. Yn gyffredinol, caiff y lleoliadau anarferol eu rhesymoli fel bydysawdau amgen.
Llyfryddiaeth ddethol
golyguDirgelwch: Benjamin January
golygu- A Free Man of Color (1997)
- Fever Season (1998)
- Graveyard Dust (1999)
- Sold Down the River (2000)
- Die upon a Kiss (2001)
- Wet Grave (2002)
- Days of the Dead (2003)
- Dead Water (2004)
- Dead and Buried (2010)[6]
- The Shirt On His Back (2011)[7]
- Ran Away (2011)[8]
- Good Man Friday (2013)[9]
- Crimson Angel (2014)[10]
- Drinking Gourd (2016) [11]
- Murder in July (2017) [12]
- Cold Bayou (2018) [13]
Storiau byrion
golygu- "Libre" (2006, stori fer yn Ellery Queen’s Mystery Magazine, Tachwedd 2006, rhifyn Salute to New Orleans.)
- "There Shall Your Heart Be Also" (2007, stori fer yn New Orleans Noir, gol. Julie Smith.)
- "A Time to Every Purpose Under Heaven" (2010), stori fer.
Ffeithiol-hanesyddol
golygu- Search the Seven Hills [yn wreiddiol: The Quirinal Hill Affair] (1983)
- The Emancipator's Wife (2005)
- Patriot Hearts (2007)
- Homeland: A Novel (2009)
Abigail Adams Mysteries (gyda Barbara Hamilton)
golygu- The Ninth Daughter (2009)
- A Marked Man (2010)
- Sup with the Devil (2011)
Clytweithiau o storiau byrion Sherlock Holmes
golygu- "The Adventure of the Antiquarian’s Niece" (2003, Shadows Over Baker Street, gol. Michael Reaves & John Pelan)
- "The Dollmaker of Marigold Walk" (2003, My Sherlock Holmes, gol. Michael Kurlan)
- "The Lost Boy" (2008, Gaslight Grimoire, gol. J. R. Campbell a Charles Prepolec)
Anne Steelyard: The Garden of Emptiness
golygu- An Honorary Man (2008, nofel graffig)
- The Gate of Dreams and Starlight (2009, nofel graffig)
- A Thousand Waters (2011, nofel graffig)
Darwath
golyguThe Darwath Trilogy
golygu- The Time of the Dark (1982)
- The Walls of Air (1983)
- The Armies of Daylight (1983)
Darwath novels
golygu- Mother of Winter (1996)
- Icefalcon's Quest (1998)
- "Pretty Polly" (2010)
Sun Wolf and Starhawk
golygu- The Ladies of Mandrigyn (1984)
- The Witches of Wenshar (1987)
- The Unschooled Wizard (The Ladies of Mandrigyn & The Witches of Wenshar omnibus; 1987)
- The Dark Hand of Magic (1990)
- "A Night with the Girls" (2010)
- "Fairest In The Land" (2011)
Winterlands
golygu- Dragonsbane (1985)
- Dragonshadow (1999)
- Knight of the Demon Queen (2000)
- Dragonstar (2002)
- Princess (2010)
The Windrose Chronicles
golygu- The Silent Tower (1986)
- The Silicon Mage (1988)
- Darkmage (1988, omnibws o'r The Silent Tower a The Silicon Mage)
- Dog Wizard (1993)
- Stranger at the Wedding (a gyhoeddwyd hefyd dan y teitl Sorcerer's Ward) (1994)
- Windrose
- "Firemaggot" (2010)
- "Corridor" (2011)
- "Plus-One" (2012)
- "Personal Paradise" (2014)
- "Zénobie" (2015)[14]
- "...Pretty Maids All in a Row" (2015)
Star Trek Universe
golygu- Ishmael (1985)
- Ghost-Walker (1991)
- Crossroad (1994)
James Asher, Vampire Novels
golygu- Those Who Hunt the Night, AKA Immortal Blood (UK title) (1988; enillydd Gwobr "Best Horror Novel in 1989")
- Traveling with the Dead (1995; enillydd Gwobr Lord Ruthven, 1996)
- Blood Maidens (2010)
- Magistrates of Hell (2012)
- The Kindred of Darkness (2014)
- Darkness on His Bones (2015)
- Pale Guardian (U.K. 2016, U.S. 2017)[15]
- Prisoner of Midnight (U.S. 2019)[16]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Barbara Hambly". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Barbara HAMBLY". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Barbara Hambly".
- ↑ Anrhydeddau: https://www.yozone.fr/spip.php?article8347. https://www.sfadb.com/Locus_Awards_1989.
- ↑ "Review of female characters in Barbara Hambly novels" Archifwyd 2006-11-14 yn y Peiriant Wayback, Strange Horizons
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 13 Awst 2018.
- ↑ "Severn House". www.severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 13 Awst 2018.
- ↑ "Smashwords – About Barbara Hambly". Cyrchwyd 14 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Severn House". severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Severn House". severnhouse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-23. Cyrchwyd 3 Mawrth 2019.
- ↑ https://www.yozone.fr/spip.php?article8347.
- ↑ https://www.sfadb.com/Locus_Awards_1989.