Robert Davies (Bardd Nantglyn)

bardd a gramadegwr
(Ailgyfeiriad o Bardd Nantglyn)

Bardd a beirniad llenyddol o Sir Ddinbych, gogledd-ddwyrain Cymru, oedd Robert Davies (17691 Rhagfyr 1835), a adnabyddir fel rheol wrth yr enw Bardd Nantglyn. Roedd yn llenor dylanwadol a fu mewn bri trwy'r rhan fwyaf o'r 19g. Fe'i cofir yn bennaf am ei gerddi ysmala, dychanol, ei Ieithiadur, a'r llinell enwog "Beibl i bawb o bobl y byd".

Robert Davies
FfugenwBardd Nantglyn Edit this on Wikidata
Ganwyd1769 Edit this on Wikidata
Nantglyn Edit this on Wikidata
Bu farw1 Rhagfyr 1835 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Fel y mae ei enw barddol yn awgrymu, brodor o Nantglyn, ger Dinbych, oedd y bardd. Ar ôl prentisio fel teiliwr yn ddyn ifanc, bu'n grydd a clochydd wrth ei grefft.

Roedd yn eisteddfodwr brwd yn y cyfnod pan drefnai'r Gwyneddigion eisteddfodau rhanbarthol yng ngogledd Cymru. Enillodd wobr yn Eisteddfod y Gwyneddigion Caerwys yn 1798 gydag awdl wladgar. Fel canlyniad cafodd ei wahodd i gyfrannu o fwrlwm llenyddol Llundain ac am gyfnod fe'i apwyntiwyd yn fardd swyddogol y Gymdeithas, ond dychwelodd i'w bentref genedigol yn 1804 i fod gartref gyda'i deulu. Bu farw yno yn 1835.

Gwaith llenyddol golygu

Roedd ei gyfrol o ramadeg, Ieithiadur neu Ramadeg Cymraeg (1808) yn llyfr hynod boblogaidd yn hanner cyntaf y 19g; cafodd yr adran ar reolau Cerdd Dafod ddylanwad mawr ar feirdd y cyfnod.

Cyhoeddodd sawl cywydd ac awdl yn y cofnodolion cyfoes, ac un gyfrol o gerddi, sef Dilïau Barddas.

Fel beirniad eisteddfodol roedd yn ffigwr adnabyddus, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Ochrodd gyda William Owen Pughe i farnu awdl ddadleuol Edward Hughes (Y Dryw) ar 'Elusengarwch' yn Eisteddfod Dinbych, 1818, gan dynnu nyth cacwn am ei ben am gyfnod.

Llyfryddiaeth golygu

  • Ieithiadur neu Ramadeg Cymraeg (Caer, 1808; sawl argraffiad arall wedyn, e.e. Thomas Gee, Dinbych, 1818)
  • Dilïau Barddas