Barf hen ŵr
Barf hen ŵr | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Urdd: | Ranunculales |
Teulu: | Ranunculaceae |
Genws: | Clematis |
Rhywogaeth: | C. vitalba |
Enw deuenwol | |
Clematis vitalba L. |
Llwyn coediog sy'n ymledu'n flêr gan ddringo ydy barf hen ŵr neu farf yr hen ŵr (Saesneg: Old man's beard neu Traveller's joy; clematis vitalba). Mae'n perthyn i'r un teulu â blodyn ymenyn (Ranunculaceae). Gall dyfu rhwng 1-10 metr o uchter. Ceir blodau unigol ar goesyn 5 cm neu fwy heb betalau ond gyda 4 sepal lliw hufen neu wyrdd a llawer o frigerau lliw hufen.
Mae'r dail mewn parau gyferbyn â'i gilydd, a'r rheiny'n ddail cyfansawdd. Mae coesau'r dail yn gallu cordeddu o amgylch canghennau neu unrhyw beth a all eu dal. Ceir un hedyn, gyda phlyfun wedi deillio o'r stigma, mewn pen crwn. Blodeua rhwng Gorffennaf a Medi.
Mae sawl math o wyfynod yn hoff iawn o fwyta'r blodyn a'r dail.
Dolennau allanol
golygu- Lluniau amrywiol Archifwyd 2009-05-26 yn y Peiriant Wayback