San Carlos de Bariloche
Dinas yn nhalaith Río Negro, yr Ariannin, yw San Carlos de Bariloche, sy'n cael ei adnabod fel Bariloche fel arfer. Fe'i lleolir wrth droed mynyddoedd yr Andes, ac fe'i hamgylchynnir gan lynoedd (Nahuel Huapi, Gutiérrez Lake, Moreno Lake a Mascardi Lake) a mynyddoedd (Tronador, Cerro Catedral, Cerro López). Mae'n enwog am sgïo a thwristiaeth, chwaraeon dŵr, mynydda a dringo. Mae Cerro Catedral yn un o'r canolfannau sgïo pwysicaf yn Ne America.
Math | bwrdeistref, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 112,887, 135,755 |
Sefydlwyd | |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Talaith Río Negro |
Sir | Talaith Río Negro |
Gwlad | Yr Ariannin |
Arwynebedd | 220.27 km² |
Uwch y môr | 794 metr |
Cyfesurynnau | 41.15°S 71.3°W |
Cod post | R8400 |
Hanes
golyguDaw'r enw Bariloche o'r gair Mapudungun Vuriloche sy'n golygu "pobl o du ôl y mynydd" (furi = tu ôl, che = pobl). Defnyddiwyd y llwybr Vuriloche gan y Poyas i groesi'r Andes ac fe'i gadwyd yn gyfrinach wrth yr offeiriaid Ewropeaidd am gyfnod hir.
Twristiaeth
golyguTwristiaeth cenedlaethol a rhyngwladol yw prif weithgarwch economaidd Bariloche, a hynny trwy gydol y flwyddyn. Ceir y prif ganolfan sgïo yn Cerro Catedral. Yn ystod yr Haf, gwelir torheulwyr ar draethau fel Playa Bonita a Villa Tacul ac ambell unigolyn yn nofio yn y llynoedd (sydd â dŵr oer trywy gydol y flwyddyn oherwydd yr eira toddedig.) Mae'r diwydiant pysgota hefyd yn atyniad poblogaidd. Bariloche yw'r ddinas fwyaf yn Ardal y Llynoedd Mawrion, ac fe'i ddefnyddir gan nifer o dwristiaid fel man cychwyn ar gyfer tieithiau i nifer o lefydd eraill. Mae dringo yn y mynyddoedd hefyd yn weithgaredd poblogaidd. Mae'r ddinas yn enwog am ei siocledi hefyd.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol Bariloche
- Tywydd ar gyfer Bariloche gan Yahoo! Archifwyd 2009-11-21 yn y Peiriant Wayback.
Oriel
golygu-
Eglwys Gadeiriol Dinas San Carlos de Bariloche
-
Club Andino Bariloche
-
Gwesty Llao Llao
-
Cyrchfan sgïo Cerro Catedral
-
Cerro Catedral
-
Canolfan ddinesig