Behgjet Pacolli
Arlywydd Cosofo yw Behgjet Isa Pacolli (ganed 30 Awst 1951) yn Marec, Cosofo. Bu'n Brif Weithredwr cwmni adeiladu o'r Swistir am rai blynyddoedd a dywedir mai ef yw dinesydd mwyaf cyfoethog Cosofo.[1]
Behgjet Pacolli | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
30 Awst 1951 ![]() Prishtina ![]() |
Dinasyddiaeth |
Cosofo, Y Swistir ![]() |
Galwedigaeth |
diplomydd, gwleidydd, person busnes ![]() |
Swydd |
Arlywydd Cosofo ![]() |
Plaid Wleidyddol |
New Kosovo Alliance ![]() |
Priod |
Anna Oxa, Maria Pacolli ![]() |
Gwefan |
http://www.behgjetpacolli.com/ ![]() |
Y cyfnod cynnarGolygu
Tra roedd yn ddisgybl yn yr ysgol uwchradd yn Pristina, bu'n rhaid iddo fyw mewn cwt coed-tân am bedair mlynedd a oedd yn eiddo i deulu o Dwrci gan fynd adre ddwywaith yr wythnos - 80 kilometr yn ôl a blaen - er mwyn nôl nwyddau. Yn 17 oed cyrhaeddodd Hamburg, yr Almaen, heb geiniog yn ei boced, a chychwynodd weithio yn y dociau er mwyn talu ei ffordd. Ar yr un pryd, astudiodd yn y Brifysgol. Dysgodd pum iaith arall yn y dociau.
Ar ôl cyfnod fel milwr cafodd swydd yn gwerthu i gwmni o Awstria, gan werthu i wledydd megis Iwgoslafia, Bwlgaria, Gwlad Pwyl a Rwsia.
GwleidyddiaethGolygu
Ar 17 Mawrth 2006, sefydlodd gynghrair Cosofo Newydd (AKR), a daeth y drydedd blaid mwyaf poblogaidd yn etholiad 2007.
Ers 2004 bu'n weithgar iawn yn dadlau a lobio dros annibyniaeth lwyr i Gosofo.