Belgiaid Almaeneg
Grŵp ethno-ieithyddol sydd yn hanu o ddwyrain Gwlad Belg, ar y ffin â'r Almaen yn ardal yr Ardennes ac yn ardal Felgaidd Lorraine ar y ffin â Lwcsembwrg, ac yn siarad Almaeneg yw'r Belgiaid Almaeneg.
Math o gyfrwng | cymuned yng Ngwlad Belg |
---|---|
Rhan o | Gwlad Belg |
Dechrau/Sefydlu | 1984 |
Enw brodorol | Ostbelgien |
Gwladwriaeth | Gwlad Belg |
Rhanbarth | Gwlad Belg |
Gwefan | https://ostbelgienlive.be |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhennir tiriogaeth y Belgiaid Almaeneg yn ddwy ardal a chanddynt hanes tiriogaethol gwahanol. Yn nhalaith Luxembourg yn ne-ddwyrain y wlad mae'r ardal a elwir gynt yn "yr Hen Felg Almaeneg", sydd yn cynnwys 22 o ddosbarthau o amgylch dinas Arlon (Arel). Daeth yn rhan o Wlad Belg adeg ffurfio'r deyrnas yn 1830. Siaradwyr Almaeneg a Lwcsembwrgeg oedd y trigolion yn hanesyddol, a chawsant eu cymhathu â'r Walwniaid i raddau helaeth erbyn yr 20g.
Yng ngogledd-ddwyrain Walonia mae'r hyn a elwir gynt yn "Felg Almaeneg Newydd", sef y 34 o ddosbarthau o amgylch Eupen, Malmédy, a Saint Vith yn nhalaith Liège. Bu'r isoglos yma rhwng siaradwyr Lladinaidd (Ffrangeg) a siaradwyr Germanaidd (Almaeneg) mwy neu lai yn gyson ers oes y Rhufeiniaid. Cafodd y cantonau yma, a oedd ym meddiant Prwsia ac yna Ymerodraeth yr Almaen ers 1815, eu rhoddi i Wlad Belg yn 1919 yn ôl telerau Cytundeb Versailles. Bu'r bobl hon yn cadw at eu cenedligrwydd Almaenig, yn wahanol i drigolion Arlon, ac yn gwrthwynebu ymdrechion y Walwniaid i'w Ffrengigo. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cafodd lluoedd yr Almaen eu croesawu gan nifer o drigolion, ac ymunodd 8700 o ddynion yr ardal â'r Wehrmacht.
Yn y 1960au, dechreuwyd ar y broses o gydnabod statws yr iaith Almaeneg yng nghantonau Eupen a Malmédy, a'i defnyddio yn y system addysg, y llysoedd barn, a gweinyddiaeth gyhoeddus. Yn 1984, sefydlwyd Cymuned Almaeneg Gwlad Belg, neu Ddwyrain Gwlad Belg, un o dair cymuned ffederal yn y wladwriaeth, ac yn meddu ar senedd a llywodraeth ei hun. Mae'r mwyafrif helaeth o'r trigolion yn ystyried eu hunain yn Felgiaid, ond nid yn Walwniaid.[1] Nid yw Belgiaid Almaeneg yn nhalaith Luxembourg yn rhan o'r Gymuned Almaeneg swyddogol, ac mae defnydd yr iaith Almaeneg yn dirywio yn yr ardaloedd hynny.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Separatism fears grow in Belgium as German speakers assert themselves", The Guardian (2 Mai 2017). Adalwyd ar 3 Medi 2018.