Pobl Ladinaidd sy'n frodorol i Walonia yn ne Gwlad Belg yw'r Walwniaid. Maent yn siarad tafodieithoedd Ffrangeg a'r Walwneg. Disgynna'r Walwniaid o'r Gâl-Rufeiniaid a chanddynt waedoliaeth Germanaidd o'r hen Ffranciaid. Maent yn cyfri am ryw traean o boblogaeth Gwlad Belg, ac hwy yw grŵp ethno-ieithyddol fwyaf y wlad ar ôl y Ffleminiaid. Amcangyfrifir bod 4.2–5.3 miliwn o Walwniaid ethnig yn y flwyddyn 2015.[1]

Walwniaid
Enghraifft o'r canlynolgrŵp ethnig Edit this on Wikidata
MathRomance people Edit this on Wikidata
Enw brodorolWalons Edit this on Wikidata
GwladwriaethGwlad Belg, Ffrainc Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Map ieithyddol Walonia.

Mae'r mwyafrif o Walwniaid a Ffleminiaid yn rhannu'r un traddodiad crefyddol, Pabyddiaeth, ac hanes gwleidyddol hir, ond nid yw'r ddwy gymdeithas yn siarad yr un ieithoedd. Iaith Romáwns a chanddi is-haen Gelteg a dylanwadau Germaneg yw'r Walwneg, a elwir weithiau yn "Hen Ffrangeg".[1] Yn yr 20g, cafodd ffurf safonol ar Ffrangeg ei ymsefydlu yn Walonia, ac erbyn heddiw dim ond rhyw draean o Walwniaid sy'n medru'r iaith frodorol. Ceir sefyllfa debyg i'r gogledd, lle mae'r Iseldireg wedi cymryd tir oddi ar Fflemeg. Er bod trigolion Ffrangeg y brifddinas Brwsel yn rhannu tras debyg â thrigolion Walonia, nid ydynt fel rheol yn ystyried eu hunain yn Walwniaid.[2]

O ran y Walwniaid Ffrangeg, siaredir Picardeg yng ngorllewin Walonia a Champenois a Lorrain yn y de-ddwyrain. Yn ogystal â phoblogaeth frodorol Walonia, triga Walwniaid sy'n siarad Walwneg yn département Ardennes yn Ffrainc, yn enwedig yr ardal o dir a amgylchynir gan y ffin â Gwlad Belg ar lannau Afon Moûze. Yng ngogledd-ddwyrain Walonia mae'r gymuned Almaeneg ger y ffin a'r Almaen, ac nid yw'r boblogaeth hon yn Walwniaid. Yn ne-ddwyrain Walonia mae siaradwyr Lwcsembwrgeg ger y ffin â Lwcsembwrg, ac fel rheol ystyrir y rhain yn Walwniaid yn hytrach na rhan o'r gymuned Almaeneg. O ganlyniad i ymfudo, triga nifer o bobl o dras Walwnaidd yn Québec, Canada, ac yn Wisconsin, UDA.

Hanes golygu

Gwreiddiau'r genedl golygu

Disgynnai'r Walwniaid yn bennaf o'r Belgae, llwyth Celtaidd Galaidd a roddasant ei enw i Wlad Belg. Llwyddodd y Belgae i wrthsefyll y Rhufeiniaid am saith mlynedd cyn iddynt ildio yn y flwyddyn 57 CC.[1] Cymysgodd rhywfaint o'r goresgynwyr Rhufeinig â'r Galiaid yn ystod eu presenoldeb yn yr ardal o'r 1g CC i'r 5g OC. Cyrhaeddodd llwythau Germanaidd, yn bennaf y Ffranciaid, yr ardal yn y 3g a'r 4g OC. I ddechrau, rhennid y Germaniaid a'r Celtiaid gan y coedwigoedd sy'n croesi gogledd canolbarth Gwlad Belg heddiw, i'r de o ddinas Brwsel.[2] Yn y flwyddyn 358 OC cafodd y boblogaeth Alaidd-Rufeinig ei gwthio i'r de gan y Saliaid, llwyth o'r Ffranciaid, a sefydlogwyd y ffin ieithyddol sydd wedi goroesi mwy neu lai hyd heddiw.[1] Yn sgil enciliad y lluoedd Rhufeinig yn y 5g, ymledodd y Ffranciaid i'r de ac i'r tir sydd heddiw yng ngogledd Ffrainc. Arhosodd hynafiaid y Walwniaid yn y gwastatir a'r Ardennes, a sefydlasant poblogaeth barhaol er gwaethaf datblygiad teyrnasoedd y Germaniaid o'u cwmpas.[2]

Yn ystod yr oes Rufeinig, cafodd y boblogaeth ei Ladineiddio i raddau helaeth, yn fwy felly na'r Ffrancod.[1] Parhaodd y boblogaeth yn ne'r ardal i siarad iaith y Gâl-Rhufeiniaid, sef ffurf ar Ladin llafar. Dros amser, datblygodd y dafodiaith leol yn un o'r langues d'oïl, ar y cyd a'r Ffrangeg, ac yn un o sawl iaith Romáwns sydd yn tarddu o Ladin. I'r gogledd, siaredid tafodieithoedd Germanaidd, a ddatblygodd yn Fflemeg ac Iseldireg.

Yr Oesoedd Canol golygu

Er y cysylltiad ieithyddol agos gyda'r Ffrancod, bu hanes y Walwniaid yn rhan o'r tiroedd hynny rhwng Ffrainc a'r Almaen. Yn y 15g, unwyd Walwnia a Fflandrys dan reolaeth Dugiaid Bwrgwyn, ac ym 1477 dan y Habsbwrgiaid. Ymgorfforwyd Walwnia a Fflandrys yn yr Iseldiroedd ym 1815. Yn y flwyddyn 1830 gwrthryfelodd y Walwniaid a'r Ffleminiaid, wedi uno gan Babyddiaeth, yn erbyn rheolaeth Brotestanaidd yr Isalmaenwyr yn y gogledd. Enillodd Teyrnas Gwlad Belg ei hannibyniaeth ym 1831.[1]

Un o'r ddwy genedl Felgaidd golygu

Am ganrif, dominyddwyd gwleidyddiaeth Gwlad Belg gan y gymdeithas Walwnaidd er yr oedd yn llai o faint na'r gymdeithas Ffleminaidd. Ar y dechrau, Walwneg oedd iaith weinyddol y llywodraeth, ond erbyn y 1860au Ffrangeg safonol oedd y lingua franca. Yn nechrau'r 20g, daeth iaith i gymryd tir yn y diwylliant gwleidyddol oddi ar grefydd, ac felly dangoswyd rhwygau rhwng y Walwniaid a'r Ffleminiaid. Cydnabuwyd Fflemeg yn briod iaith Fflandrys. Wedi'r Ail Ryfel Byd, dirywiodd diwydiannau trymion Walonia a ffynnodd economi Fflandrys yn enwedig yn y porthladdoedd. Rhannwyd Gwlad Belg yn ddwy dalaith ymreolaethol, a'r brifddinas Brwsel yn ardal ddwyieithog arbennig. Erbyn yr 21g, dim ond y frenhiniaeth sydd un uno'r wlad yn wleidyddol, ac mae mudiadau cenedlaetholgar yn dadlau dros annibyniaeth i Walonia ac i Fflandrys fel ei gilydd.[1]

Diwylliant golygu

Llenyddiaeth golygu

Er datblygiad yr iaith lafar yn iaith Romáwns, Lladin oedd prif iaith lenyddol yr ardal o'r 9g i'r 11g. Yng nghanol y 12g, ysgrifennwyd croniclau lleol a dramâu crefyddol yn Walwneg. Traddodiad yn yr 17g oedd y pasquèyes, cerddi ar bynciau lleol yn iaith y werin. Yn ddiweddarach, cyfansoddwyd caneuon, dramâu a libretos yn Walwneg.[2] Sefydlwyd y Société Liègeoise de Littérature Wallonne yn Liège ym 1856 i hyrwyddo llenyddiaeth Walwneg, a bu adfywiad llenyddol yn y 1880au adeg y cylchgronau La Jeune Belgique a La Wallonie. Cafodd byd llenyddol Walonia ei daro yn yr 20g gan allfudiad nifer o lenorion Ffrangeg i Baris, yn eu plith Albert Mockel, Charles Plisnier, Henri Michaux, Françoise Mallet-Joris, a Georges Simenon.[3] Cafodd sillafu a gramadeg yr iaith Walwneg eu safoni gan ysgolheigion yn yr 20g, gan greu ffurf lenyddol fodern ar Walwneg.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), t. 456–57.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 Carl Waldman a Catherine Mason. Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 855.
  3. Meic Stephens, Linguistic Minorities in Western Europe (Llandysul: Gwasg Gomer, 1976), t. 30.