Agor y brif ddewislen
Am enghreifftiau eraill o'r enw, gweler Beli.

Roedd Beli Mawr neu Beli (Mawr) fab Manogan yn gymeriad mewn mytholeg Gymreig. Wrth yr enw Lladinaidd Belinus filius Minocanni, mae'n ymddangos fel brenin Brythoniaid yr Hen Ogledd yn yr Historia Brittonum a briodolir i Nennius. Roedd yn dad i Caswallon fab Beli.

Mae'n cael ei enwi ar ddechrau Cyfranc Lludd a Llefelys, mewn un o'r cerddi mytholegol a briodolir i'r bardd Taliesin yn Llyfr Taliesin, ac ym Mreuddwyd Macsen, lle y dywedir bod Macsen Wledig wedi cymryd meddiant ar Ynys Brydain oddi ar Beli fab Manogan. Yn yr Hen Ogledd, roedd arweinwyr ac arwyr fel Urien Rheged, Gwenddolau a Llywarch Hen yn olrhain eu tras i Feli trwy eu cyndaid Coel Hen. Roedd pob un o deuluoedd brenhinol Cymru, er enghraifft teulu Cunedda, sefydlydd teyrnas Gwynedd, yn hawlio eu bod yn ddisgynyddion i Beli Mawr. Fe all fod yn cyfateb i'r duw Celtaidd Belenus. Dichon hefyd bod enw'r dduwies Geltaidd Belisama yn tarddu o'r un gwreiddyn.

Mewn rhai ffynonellau mae'r dduwies Dôn yn ferch iddo. Cyfeirir ato fel tad Caswallon a Lludd a Llefelys.

Yn yr Historia Regum Britanniae, mae Sieffre o Fynwy yn troi Beli'n Heli, a dan yr enw hwnnw y mae cymeriad Beli yn adnabyddus fel ffigwr yn y rhamantau diweddarach am y brenin Arthur yn Ewrop.

LlyfryddiaethGolygu

  • Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Gwasg Prifysgol Cymru, arg. newydd, 1991)
  • Meic Stephens (gol) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986) ISBN 0-7083-0915-1