Ben Bradshaw
Gwleidydd Seisnig ac Aelod Seneddol ar gyfer etholaeth Caerwysg ydy Benjamin Peter James "Ben" Bradshaw (ganed 30 Awst, 1960 yn Llundain).
Ben Bradshaw | |
| |
Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon
| |
Cyfnod yn y swydd 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 | |
Prif Weinidog | Gordon Brown |
---|---|
Rhagflaenydd | Andrew Burnham |
Olynydd | Jeremy Hunt |
Geni | 30 Awst 1960 Dinas Westminster, Llundain |
Etholaeth | Caerwysg |
Plaid wleidyddol | Llafur |
Priod | Neal Dalgleish |
Rhwng 2009 i 2010, ef yw'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a'r Gweinidog ar gyfer y De Orllewin. Ef oedd un o'r ASau cyntaf i fod yn agored fel gwr hoyw.
Bywgraffiad
golyguYn fab i ficer yn Eglwys Gadeiriol Norwich, derbyniodd Bradshaw ei addysg yn Ysgol Uwchradd Thorpe St Andrew High School (Norwich) a Phrifysgol Sussex lle graddiodd yn Almaeneg. Mynychodd Brifysgol Freiburg, yr Almaen hefyd. Ym 1982/83 dysgodd Saesneg yn y Technikum, ysgol dechnoleg yn Winterthur (Y Swistir). Daeth yn newyddiadurwr gyda'r Exeter Express and Echo yn 1984 a chafodd ei apwyntio'n newyddiadurwr gyda'r Eastern Daily Press yn Norwich yn 1985. Ym 1986 ymunodd a'r BBC fel newyddiadurwr gyda BBC Radio Devon. Ym 1989 enillodd wobr am ei waith fel gohebydd BBC Radio ym Merlin a gweithiodd yn y ddinas pan ddymchwelwyd Mur Berlin. Parhaodd i weithio fel newyddiadurwr i raglen radio y BBC The World At One o 1991 nes iddo gael eu ethol i San Steffan. Ym 1993, enillodd Wobr Newyddiadurwr Sony.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Hannam |
Aelod Seneddol dros Gaerwysg 1997 – presennol |
Olynydd: deiliad |
Swyddi gwleidyddol | ||
Rhagflaenydd: Andrew Burnham |
Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon 5 Mehefin 2009 – 12 Mai 2010 |
Olynydd: Jeremy Hunt |