Berdiansk
dinas yn Wcráin
Dinas borthladd yn Oblast Zaporizhzhia yn ne-ddwyrain Wcráin yw Berdiansk (Wcreineg: Бердя́нськ) neu Berdyansk (Rwseg: Бердя́нск). Saif ar arfordir gogleddol Môr Azov, sydd yn estyniad gogleddol i'r Môr Du. Hi yw canolfan weinyddol Rhanbarth Berdiansk, er nad yw'n perthyn i'r rhanbarth honno. Enwyd y ddinas ar ôl afon Berda wrth ffurfio'r tafod tywod Berdianska y lleolir hi wrth ei droed.[1] Mae Berdiansk yn gartref i sw saffari, parc dŵr, amgueddfeydd, sbâugyda baddonau mwd a thriniaethau hinsoddol a nifer o weithgareddau chwaraeon dŵr. Mae ganddi boblogaeth o 107,928.
![]() | |
![]() | |
Math | dinas fawr, dinas yn Wcráin ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 106,311 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Valery Baranov ![]() |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Wcreineg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Zaporizhzhia Oblast, Berdyansky Uyezd, Berdiansk Okruha, Berdiansk Raion ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 80 km² ![]() |
Uwch y môr | 10 ±1 metr ![]() |
Gerllaw | Môr Azov ![]() |
Cyfesurynnau | 46.7556°N 36.7889°E ![]() |
Cod post | 71100–71127 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Berdiansk ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Valery Baranov ![]() |
![]() | |
Gefeilldrefi
golyguMae Berdiansk wedi'i gefeillio neu'n chwaer-ddinas â: [2]
- Beibei (Chongqing), Tsieina
- Bielsko-Biała, Gwlad Pwyl
- Glyfada, Gwlad Groeg
- Haisyn, Wcráin
- Horodenka, Wcráin
- Khmilnyk, Wcráin
- Kremenchuk, Wcráin
- Lowell, Unol Daleithiau America
- Poti, Georgia
- La Seyne-sur-Mer, Ffrainc
- Yambol, Bwlgaria
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Berdyansk city, Ukraine travel guide". ukrainetrek.com. Cyrchwyd 2016-12-17.
- ↑ "Партнерські зв'язки". bmr.gov.ua (yn Wcreineg). Berdyansk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-02-27. Cyrchwyd 2020-04-01.