Odessa
Odessa, neu Odesa (Wcreineg: Одеса; Rwseg: Одесса) yw dinas bedwaredd fwyaf yr Wcráin. Mae ganddi boblogaeth o rhwng 1,029,000 (Cyfrifiad 2001) a 1,080,000 (amcangyfrif 2008). Mae'r ddinas yn borthladd pwysig, y mwyaf yn y wlad, sy'n gorwedd ar lan ogleddol y Môr Du.
![]() | |
![]() | |
Math |
Amalgamated hromada, city in Ukraine ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
1,010,783, 1,017,699 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth |
Gennadiy Trukhanov ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+03:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i |
Alexandria, Baltimore, Łódź, Split, Rostov-ar-Ddon, Yerevan, Yokohama, Varna, Haifa, Klaipėda, Rosh HaAyin, Van, Heraklion, Regensburg, Genova, Grozny, Gdańsk, Marseille, Minsk, Valencia, Huși, Constanța, Chişinău, St Petersburg, Vancouver, Lerpwl, Valparaíso, Oulu, Taganrog, Jeddah, Brest, Metropolitan City of Genoa, Bwrdeistref Larnaca, Bwrdeistref Nicosia, Szeged, Fienna, Warsaw, Tbilisi, Tallinn, Qingdao, Piraeus, Ningbo, Marrakech, Kolkata, Istanbul ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Odessa Raion ![]() |
Gwlad | [[Delwedd:Nodyn:Alias baner gwlad Yr Wcráin|22x20px|Baner Nodyn:Alias gwlad Yr Wcráin]] [[Nodyn:Alias gwlad Yr Wcráin]] |
Arwynebedd |
236.9 km² ![]() |
Uwch y môr |
40 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Gulf of Odessa ![]() |
Yn ffinio gyda |
Chornomorsk municipality, Tairove municipality, Krasnosilka municipality, Velykyi Dalnyk municipality, Avangard municipality, Fontanka municipality, Usatove municipality ![]() |
Cyfesurynnau |
46.5°N 30.7°E ![]() |
Cod post |
65000–65480 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol |
Odessa city Concil ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Gennadiy Trukhanov ![]() |
![]() | |
- Erthygl am ddinas Odessa yw hon. Gweler hefyd Odessa (gwahaniaethu).
O 1819 hyd 1858 roedd Odessa yn borthladd rhydd (porto franco). Yn y cyfnod Sofietaidd Odessa oedd porthladd pwysicaf yr Undeb Sofietaidd ac roedd hefyd yn wersyll llynges fawr. Yn y 19g, hon oedd y bedwaredd ddinas yn y Rwsia Imperialaidd, ar ôl Moscow, Saint Petersburg, a Warsaw. Heddiw ceir dau borthladd yn ninas Odessa: Odessa ei hun a Yuzhny (sydd hefyd yn borthladd olew), sy'n gorwedd ym maesdrefi'r ddinas. Ceir porthladd pwysig arall yn oblast Odessa, sef Illichivs'k (Ilyichyovsk), i'r de-orllewin o Odessa. Gyda sawl rheilffordd yn rhedeg o'r ddinas hefyd, mae'n un o greosffyrdd cludiant pwysicaf y wlad. Ceir gweithfeydd prosesu olew a chemegion yn Odessa hefyd, a gysylltir â rhwydweithiau Rwsia a'r Undeb Ewropeaidd trwy gyfres o bibellau strategol.
Dechreuodd y ddinas fel gwladfa Groegaidd. Mae ei hanes yn ddrych i hanes hir a chymhleth Wcrain a Rwsia.
Lleolir dinas Odessa ar res o fryniau sy'n codi ger harbwr naturiol bychan, tua 31 km (19 milltir) i'r gogledd o aber Afon Dniester a thua 443 km (275 milltir) i'r de o'r brifddinas, Kiev. Mae'r hinsawdd yn gymhedrol a sych, gyda thymheredd ar gyfartaledd yn Ionawr o -2 °C (29 °F), a 22 °C (72 °F) yng Ngorffennaf. Ceir tua 350 mm (14 mod.) o law mewn blwyddyn.
Y brif iaith ar y stryd yw Rwseg, gyda'r Wcreineg yn llai cyffredin er ei bod yn iaith swyddol y wlad. Ceir cymysgfa o bobl o sawl cenedligrwydd a chefndir ethnig yno, yn cynnwys Wcraniaid, Rwsiaid, Groegiaid, Iddewon, Moldofiaid, Bwlgariaid, Armeniaid, Georgiaid, Almaenwyr, ac eraill.
GefeilldrefiGolygu
Dolen allanolGolygu
- (Saesneg) Gwefan swyddogol