Blodyn blodeuol pinc neu goch ydy'r Bergamot (Saesneg: Bergamot; Lladin: Monarda didyma) sydd hefyd yn berlysieuyn gydag arogl bendigedig. Planhigyn o ogledd America ydyw a benthyciwyd yr enw Lladin gan y botanegwr Nicolas Monardes, ym 1569. Mae fel arfer i'w weld yn tyfu mewn ffos neu ar lethr.

Bergamot
Enghraifft o'r canlynoltacson Edit this on Wikidata
Mathplanhigyn defnyddiol, planhigyn unflwydd Edit this on Wikidata
Safle tacsonrhywogaeth Edit this on Wikidata
Rhiant dacsonMonarda Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Peidiwch â drysu'r planhigyn hwn â Oren bergamot, sy'n cael ei ddefnyddio i roi blas ar Te Earl Grey.
Bergamot
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Lamiales
Teulu: Lamiaceae
Genws: Monarda
Rhywogaeth: M. didyma
Enw deuenwol
Monarda didyma
L.

Disgrifiad o'r planhigyn

golygu

Gall dyfu rhwng 0.7 ac 1.5 metr o ran uchder ac mae'r bonyn yn sgwâr mewn croes-doriad. Mae'r dail rhwng 6 – 15 cm o ran hyd ac wedi'u gosod gyferbyn â'i gilydd. Maent yn wyrdd tywyll o ran lliw gyda gwythiennau rhuddgoch yn llifo drwyddynt ac ymylon danheddog. Mae'r blodau coch llachar rhwng 3 – 4 cm yn eu hyd a cheir clystyrau o tua 30 ohonynt ar un planhigyn. Blodeua ganol yr haf hyd at ei ddiwedd.

Rhinweddau meddygol

golygu

Indiaid 'Troed-ddu' oedd y cyntaf i weld gwerthu yn y planhigyn hwn o ran ei rinweddau iachusol, yn enwedig fel gwrthseptig ac mewn pwltis ar gyfer toriadau a heintiau ar y croen. Roedden nhw hefyd yn ei yfed fel te i wella wlser yn y geg a dolur gwddw. Mae cryn lawer o 'thymol' mewn Bergamot, sef prif gynhwysyn glanhawr ceg, modern. Fe'i defnyddiwyd hefyd gan yr Indiaid i wella gwynt yn y bol.[1]

Dywedir hefyd y gall wella: cur pen, anwyd, taflu i fyny a gellir bwyta neu yfed y blodyn hefyd. Gan ei fod yn arogli yn debyg iawn i de Earl Grey, fe roddir y blodyn i arnofio ar y te hwnnw mewn rhai tai bwyta, am hwyl. Defnyddir ef hefyd mewn potpourris.[2]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gregory L. Tilford, Edible and Medicinal Plants of the West (1997)
  2. Gwefan Saesneg Conrad Richter

Dolenni allanol

golygu