Annwyd
(Ailgyfeiriad o Anwyd)
Clefyd heintiol sy'n effeithio rhan uchaf y system anadlu yw annwyd. Y prif achos yw gwahanol fathau o feirws: picornafeirws (yn cynnwys rhinofeirws) neu coronafeirws.
Annwyd | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Rhinofeirws, achos annwyd, fel rheol | |
ICD-10 | J00.0 |
---|---|
ICD-9 | 460 |
DiseasesDB | 31088 |
MedlinePlus | 000678 |
eMedicine | med/2339 |
MeSH | [1] |
Ymhlith y symptomau arferol mae dolur gwddf, miwcws yn y trwyn a thisian; weithiau cur pen, poenau yn y cyhyrau a diffyg archwaeth. Fel rheol, mae'r symptomau yn parhau am tua wythnos, weithiau bythefnos. Ambell dro, mae'r dioddefydd yn disgrifio annwyd trwm fel ffliw, ond mae hwn yn afiechyd gwahanol.
Nid oes unrhyw gyffur gwrth-feirws wedi ei ddatblygu i drin annwyd hyd yn hyn. Trin y symptomau y mae'r gwahanol gyffuriau a ddefnyddir at annwyd.