Berwr y fagwyr
Planhigyn blodeuol bychan yw Berwr y fagwyr neu Arabidopsis thaliana. Mae'n perthyn i deulu'r bresych (Brassicaceae). Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Berwr y Fagwyr, Berfain Cyffredin, Berw'r Cerrig. A. thaliana oedd y planhigyn cyntaf i'w enom gael ei ddilyniannu [1] a dyma'r prif organeb model ar gyfer gwaith moleciwlaidd a datblygiadol mewn planhigion blodeuol.[2]
Enghraifft o'r canlynol | tacson, organeb model |
---|---|
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Arabidopsis |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Arabidopsis thaliana | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
Urdd: | Brassicales |
Teulu: | Brassicaceae |
Genws: | Arabidopsis |
Rhywogaeth: | A. thaliana |
Enw deuenwol | |
Arabidopsis thaliana (L.) Heynh. | |
Map o'r byd yn dangos lle mae A. thaliana yn tyfu. | |
Cyfystyron | |
Arabis thaliana |
Disgrifiad
golyguLlysieuyn bychan byr-ei-oes yw A. thaliana. Mae'r dail ar ffurf rhoséd trwchus, gyda llawer o goesennau'n gwahannu ar waelod y planhigyn. Mae'r coesennau yn sefyll i fyny heb ganghennu ymhellach fel arfer, a gallant dyfu hyd at 1–10 cm o daldra. Fe'i gorchuddir gan flew ysgafn. Mae gan y dail siap amddalen fain a di-fin, heb lawer o ddeilgoesyn, heb ddannedd neu'n fân-ddanheddog, 0.5–4 cm ar eu hyd a 0.3-1.5 cm ar eu traws, a gyda blew ar yr ochr uchaf ond bron yn ddi-flew ar yr ochr isaf. Mae'r sypiau blodau heb fractiau, yn gorymbaidd (mewn clystyrau trwchus), fel arfer gyda 15-30 blodyn ym mhob un. Mae'r sepalau yn wyrdd gydag ymylon gwyn culion, ac mae'r petalau yn wyn. Silicwâu yw'r ffrwythau – dau garpel wedi asio'n un ffrwyth. Ceir llawer iawn o hadau cochfrown crwn bychain ym mhob ffrwyth. Mae'n tyfu ar ucheldiroedd a rhosdiroedd (fel arfer ar resi grugaidd ac alpaidd), ar bridd agored ac ar uchder o 1750–4250 m.[2] Mae'r blodau'n hunanbeillio fel arfer, gyda graddfa allgroesi isel iawn o 0.3%.[3]
Rhinweddau meddygol
golyguDarganfuwyd bod y planhigyn hwn yn gallu atal twf celloedd cancr y fron heb niweidio celloedd iach. Mae'r darganfyddiad yn ffrwyth diddordeb Yr Athro Alessandra Devoto yn y planhigyn ers y 1990au[4].
Gweler hefyd
golygu- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Menter Genom Arabidopsis (2000). Analysis of the genome sequence of the flowering plant Arabidopsis thaliana, Nature, Cyfrol 408 (yn Saesneg), tud. 796-815. DOI:10.1038/35048692
- ↑ 2.0 2.1 (Saesneg) Arabidopsis thaliana (L.) Heynh.. Plants of the World Online. Kew Science. Adalwyd ar 22 Mehefin 2018.
- ↑ Abbott, Richard J; a Gomes, Mioco F (1989). Population genetic structure and outcrossing rate of Arabidopsis thaliana (L.) Heynh., Heredity, Cyfrol 62 (yn Saesneg), tud. 411-418. DOI:10.1038/hdy.1989.56
- ↑ The Times 30 Hydref 2020 (tud. 3)