Betty Garde

actores a aned yn 1905

Actores radio, ffilm a theledu o'r Unol Daleithiau oedd Katharine Elizabeth Garde [1] (19 Medi 190525 Rhagfyr 1989).

Betty Garde
Ganwyd19 Medi 1905 Edit this on Wikidata
Philadelphia Edit this on Wikidata
Bu farw25 Rhagfyr 1989 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
  • West Philadelphia High School Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Wedi'i eni yn Philadelphia, roedd Garde yn chwarae rhan mewn cynyrchiadau'r South Philadelphia's Broadway Players pan oedd yn 15 mlwydd oed. Bu'n mynychu Prifysgol Pennsylvania.[2]

Llwyfan

golygu

Wedi bod yn actor llwyfan ers dechrau'r 1920au, gwnaeth Garde ei ymddangosiad Broadway cyntaf yn chware rhan Alma Borden yn Easy Come, Easy Go (1925-1926). Bu'n chware rolau cymeriad mewn nifer o gynyrchiadau gan gynnwys The Social Register (1931-1932) a The Primrose Path (1939). Gan ei fod yn ddynes dal yn sefyll 5'10", rhoddwyd iddi rôl y cymeriad awdurdodol Modryb Eller yng nghynhyrchiad Broadway gwreiddiol 1943 o Oklahoma!. Bu hefyd yn portreadu Mrs. Gordon yn Agatha Sue, I Love You (1966).[3]

Ar ôl ymuno â chwmni radio CBS ym 1933,[2] dechreuodd Garde i weithio yn helaeth trwy gyfrwng y radio, yn perfformio ar fwy na tri dwsin o sioeau gan gynnwys Lorenzo Jones, Mrs. Wiggs of the Cabbage Patch, The Big Story, The Cantor Eddie Show (lle fu'n chware rhan pob cymeriad benywaidd ar y sioe),[2] Front Page Farrell, Maudie's Diary, Perry Mason, Theatre Guild on the Air a The Fat Man. Ym 1934 bu Garde yn gweithio gyda Orson Welles ar gyfres CBS The American School of the Air, ac fe fu hi'n perfformio mewn nifer o gyfresi radio Welles gan gynnwys Les Misérables, The Mercury Theatre on the Air, The Campbell Playhouse a Ceiling Unlimited.[4]

Mae tri chredyd ffilm Hollywood gyntaf Garde yn y "talkies" cynnar The Lady Lies (1929), Damaged Love (1930), a Queen High (1930). Ymhlith ei pherfformiadau fwy nodedig diweddarach mae'r cynyrchiadau film noir Call Northside 777 (1948), lle mae hi'n chwarae rhan tyst dros yr erlyniad sydd yn rhoi tystiolaeth sydd yn arwain at garcharu dyn diniwed; yn Cry of the City (1948) fel Miss Pruett; ac yn Caged (1950), fel carcharor llofruddiog.

Teledu

golygu

Mae ei chredydau teledu yn cynnwys ymddangosiadau ar The Honeymooners fel Thelma, morwyn y teulu Kramden; ar The Real McCoys fell y ffermwr, Aggie Larkin; ac ar ddwy bennod o The Twilight Zone, gan gynnwys y bennod The Midnight Sun gyferbyn â Lois Nettleton.

Marwolaeth

golygu

Bu farw Betty Garde mewn ysbyty yn Sherman Oaks, California ar ddydd Nadolig, 1989,[5] yn 84 oed. Dychwelwyd ei chorff i'w chartref yn Pennsylvania a'i roi i orffwys ym Mynwent Westminster, Bala Cynwyd.[6]

Cynhyrchiadau (rhannol)

golygu
Ffilm
Blwyddyn Ffilm Rhan Nodiadau
1929 The Lady Lies Hilda Pearson
1930 Queen High Florence Cole
1931 Damaged Love Madge Sloan
The Girl Habit Hattie Henry
1948 Call Northside 777 Wanda Skutnik Teitl amgen: Calling Northside 777
Cry of the City Miss Pruett
1950 Caged Kitty Stark
1951 The Prince Who Was a Thief Mirza
1955 One Desire Mrs. O'Dell
1962 The Wonderful World of the Brothers Grimm Miss Bettenhausen
Teledu
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1950 The Big Story Annie 1 Pennod
1950–1951 Suspense 3 phennod
1954 The Mask Mrs. Novak 1 Pennod
1955 The Honeymooners Thelma 1 Pennod
1955–1959 The United States Steel Hour Mom
Mrs. Flynn
2 bennod
1956 General Electric Theater Annie 1 Pennod
The Edge of Night Mattie Lane Grimsley
1957 Decoy Lletywraig 1 Pennod
1957–1959 As the World Turns Miss Tyler
1959 Mr. Lucky Maybelle Towers 1 Pennod
1959–1960 The Real McCoys Aggie Larkin 2 bennod
The Untouchables Norma Guzik
Alice
2 bennod
1960 The Chevy Mystery Show Mrs. Andrews 1 Pennod
Adventures in Paradise Queen Atea 1 Pennod
1961 The Islanders Mme. Arbedutian 1 Pennod
Shirley Temple's Storybook Y Ddynes Blodau 1 Pennod
Checkmate Sara 1 Pennod
Route 66 Lydia Sullivan 1 Pennod
The Twilight Zone Teithiwr
Mrs. Bronson
2 bennod
1962 Ben Casey Florabelle Hanks 1 Pennod
Car 54, Where Are You? Ma Dearheart 1 Pennod
1971 All the Way Home Aunt Sadie Follet Ffilm teledu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Betty Garde, 84, Dies; Actress in 'Oklahoma!'". The New York Times. 1989-12-28. Cyrchwyd 2009-06-08. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. 2.0 2.1 2.2 "Betty Garde Is Happy These Days; Cantor Calls Her a Great Actress". California, Oakland. Oakland Tribune. April 12, 1936. t. 83. Cyrchwyd January 13, 2016 – drwy Newspapers.com.  
  3. "Betty Garde". Playbill Vault. Cyrchwyd 14 January 2016.
  4. Welles, Orson, and Peter Bogdanovich, edited by Jonathan Rosenbaum, This is Orson Welles. New York: HarperCollins Publishers 1992 ISBN 0-06-016616-9
  5. DeLong, Thomas A. (1996). Radio Stars: An Illustrated Biographical Dictionary of 953 Performers, 1920 through 1960. McFarland & Company, Inc. ISBN 978-0-7864-2834-2. P. 103.
  6. Sydney, Sissy (2012). "Betty Garde", memorial 91695341, Find a Grave, a subsidiary of Ancestry.com, Lehi, Utah. Retrieved January 8, 2017.

Dolenni allanol

golygu