Gwladwriaeth a ffurfiwyd trwy ymwahanu oddi wrth Nigeria yn 1967 oedd Gweriniaeth Biaffra.[1] Bu mewn bodolaeth hyd Ionawr 1970, pan roddwyd diwedd arni gan fuddugoliaeth lluoedd arfog Nigeria yn Rhyfel Cartref Nigeria.

Biaffra
Enghraifft o'r canlynolgwladwriaeth hanesyddol heb ei chydnabod Edit this on Wikidata
Daeth i ben1970 Edit this on Wikidata
Label brodorolRepublic of Biafra Edit this on Wikidata
Poblogaeth13,500,000 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1967 Edit this on Wikidata
Map
Enw brodorolRepublic of Biafra Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Biaffra

Ffurfiwyd gwladwriaeth Biaffra yn ne-ddwyrain Nigeria, yn bennaf gan aelodau llwyth yr Igboaid. Roedd hyn yn ganlyniad anghydfod ar seiliau economaidd, diwylliannol a chrefyddol rhwng grwpiau ethnig Nigeria. Ar 30 Mai, 1967, cyhoeddodd Chukwuemeka Odumegwu Ojukwu, llywodraethwr milwrol Rhanbarth Dwyreiniol Nigeria, fod y rhanbarth o hynny ymlaen yn wladwriaeth annibynnol dan yr enw Biaffra.

Cydnabyddwyd Biaffra fel gwlad annibynnol gan lywodraethau Gabon, Haïti, Arfordir Ifori, Tansanïa a Sambia. Cawsant gymorth gan Israel, Ffrainc, Portiwgal, Rhodesia, De Affrica a'r Fatican.

Ymateb llywodraeth Nigeria oedd ymdrech filwrol i ad-uno'r wlad. Wrth i sefyllfa filwrol Biaffra waethygu yn 1969, dechreuodd newyn yno. Credir i dros filiwn o bobl farw yn y rhyfel neu o newyn. Bu'r digwyddiadau yma yn sbardun i greu y mudiad dyngarol rhyngwladol Médecins Sans Frontières ("Doctoriaid heb Ffîn").

Cyfeiriadau golygu