Bill Brandt
Ffotograffydd a ffoto-newyddiadurwr arloesol oedd Bill Brandt (ganwyd Hermann Wilhelm Brandt, 2 Mai 1904 – 20 Rhagfyr 1983).[1] Ganwyd yn yr Almaen fe symudodd i Loegr ble ddaeth yn enwog am ei ddelweddau o wahanol lefelau ag agweddau o gymdeithas Seisnig y cyfnod ar gyfer cylchganonau fel Picture Post a llyfrau fel The English At Home (1936) a London At Night (1938), wedyn delweddau abstract o noethion a phortreadau artistiaid enwog. Ystyrir Bill Brandt fel un o ffotograffwyr pwysicaf yr 20g.[2]
Bill Brandt | |
---|---|
Ganwyd | Hermann Wilhelm Brandt 3 Mai 1904 Hamburg |
Bu farw | 20 Rhagfyr 1983 Llundain |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | ffotograffydd, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr |
Mudiad | Symbolaeth (celf), Swrealaeth |
Tad | Ludwig Walther Brandt |
Mam | Louise Merck |
Priod | Eva Boros, Dorothy Anne Leslover, Marjorie Becket |
Gwobr/au | Dylunydd Brenhinol ar gyfer Diwydiant |
Gwefan | http://www.billbrandt.com/ |
Gyrfa a bywyd
golyguGanwyd yn Hamburg, i deulu o fasnachwyr a bancwyr cyfoethog,[3] ei dad yn Brydeiniwr a'i fam Almaenes. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf fe garcharwyd ei dad am 6 mis gan awdurdodau yr Almaen am fod yn ddinesydd Prydain er iddo fyw yn yr Almaen ers yn 5 oed.[4]
Yn ddiweddarach fe wadodd Bill Brandt ei gefndir Almaeneg gan fynnu iddi gael ei eni yn Ne Llundain.[5]
Ychydig ar ôl ddiwedd y rhyfel, fe gafodd Brandt diciâu (tuberculosis) ac fe dreuliodd lawer o amser mewn sanatoriwm i gyfoethogion yn Davos, y Swisdir.[6] Fe deithiodd i Fienna am gwrs o driniaeth seicolegol ble cyfarfu â'r socialite Eugenie Schwarzwald a gyflwynodd i'r bardd Americanaidd enwog Ezra Pound. Fe dynnodd Brandt ei bortread ac yn ôl pob sôn fe'i gyflwynodd i Man Ray y ffotograffwyr a swrealydd. Ym 1930 fe ddaeth Brandt yn gynorthwy-ydd ystafell dywyll i Man Ray gan ddysgu technegau arloesol ac arbrofol.[7]
Ym 1933 symudodd i fyw yn Llundain ble dechreuodd dynnu ffotograffau o bobl yn eu cartrefi, gwaith ac yn eu hamser rhydd gan amlygu'r gwahaniaethau mawr rhwng y cyfoethog a'r bobl gyffredin.
Cyhoeddodd Brandt ddau lyfr The English at Home (1936) ac A Night in London (1938) gan gyfrannu'n gyson i brif gylchgronau'r cyfod fel Lilliput, Picture Post, a Harper's Bazaar.
Ym 1940 fe'i gomisiynwyd gan wladwriaeth wybodaeth llywodraeth Llundain i gofnodi pobl Llundain yn cuddio rhag bomiau'r ail ryfel byd yng ngorsafoedd yr Underground. Manteisiodd Brandt ar dywyllwch y black out i dynnu lluniau o strydoedd gwag Llundain yn y nos.[5]
Yn dilyn yr ail ryfel byd fe ddechreuodd gyfres o luniau noethion, yn aml defnyddiodd Brandt camera gyda lens arbennig i wneud cyrff y modelau yn ymddangos wedi'u hestyn yn rhyfedd i greu delweddau hynod o gryf.
Fe dynnodd hefyd cyfres o luniau o lenyddon ac artistiaid yn cynnwys rhai o enwau enwocaf y cyfnod fel Pablo Picasso a Salvador Dalí. Ystyrir ei lun enwog o Francis Bacon yn Primrose Hill, Llundain yn glasur.
Ei brif lyfrau'r cyfnod yma'n cynnwys Literary Britain (1951), Perspective of Nudes a Shadow of Light (1966).[5]
Bu farw Brandt yn Llundain ym 1983. Yn flwyddyn honno ymddangosodd raglen ddogfen BBC 'Master Photographers' ar fywyd Brandt. Er i Brandt fod yn swil gan ac adnabyddus am wneud ei orau i osgoi siarad am ei waith yn gyhoeddus mae'r rhaglen yn cynnwys un o'r ychydig o gyfweliadau hir a ffilmiwyd ohono. Y rhaglen i'w weld ar lein yma: [1]
Sefydlwyd archif o'i waith, sydd hefyd yn cynnwys orielau o'i waith ac yn gwerthu detholiad o lyfrau a phrintiau. billbrandt.com
Llyfrau
golygu- Paul Delany: "Bill Brandt: A Life." 2004
- Brandt, Bill. "Londres de Nuit, Paris: Arts et Métiers Graphiques." 1938.
- Brandt, Bill. "Camera in London." 1948.
- Brandt, Bill. "The English at Home." 1936.
- Brandt, Bill. "Literary Britain." 1951.
- Brandt, Bill. "Bill Brandt: Perspective of Nudes." 1961.
- Brandt, Bill. "Perspectives sur le Nu." 1961.
- Brandt, Bill. "Ombres d'une Ile." 1966.
- Brandt, Bill. "Bill Brandt: Early Photographs, 1930-1942." 1975.
- Brandt, Bill. "Shadow of Light." 1966.
- Brandt, Bill. "Bill Brandt: Nudes 1945-1980." 1980.
- Brandt, Bill. "London in the Thirties." 1983.
- Brandt, Bill. "Portraits: Photographs by Bill Brandt." 1982.
- Brandt, Bill. "Nudes: Bill Brandt." 1980
- Brandt, Bill. "Bill Brandt." 1976
- Brandt, Bill. "Bill Brandt: Photographs 1928-1983." 1993
- Brandt, Bill. "Bill Brandt." 1982.
- Brandt, Bill. "Brandt: The Photography of Bill Brandt." 1999
- Brandt, Bill. "Brandt: Nudes." 2012
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Paul Delany, Bill Brandt: A Life, t.14
- ↑ http://www.vam.ac.uk/page/b/bill-brandt/
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-02-07. Cyrchwyd 2014-12-18.
- ↑ Delany, 21
- ↑ 5.0 5.1 5.2 "Bill Brandt Biography". Victoria and Albert Museum. 2004. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-05-19. Cyrchwyd 30 March 2010.
- ↑ Martin Gasser, ‘Bill Brandt in Switzerland and Austria: Shadows of Life’, History of Photography (Winter 1997)
- ↑ http://www.vam.ac.uk/content/articles/b/bill-brandt-biography/
Dolenni allanol
golygu- Archif Bill Brandt
- Bill Brandt - Sefydliad Gelf Chicago Archifwyd 2012-04-27 yn y Peiriant Wayback
- Brandt yn Amgeuddfa Victoria ac Albert, Llundain Archifwyd 2011-05-29 yn y Peiriant Wayback