Billy Trew
Roedd Billy Trew (12 Mawrth 1879 - 20 Awst 1926) yn ganolwr rygbi'r undeb o Gymru.[1] Chwaraeodd i Glwb Rygbi Abertawe. Enillodd 29 cap dros Gymru ac mae'n cael ei ystyried yn un o chwaraewyr allweddol Oes Aur cyntaf rygbi Cymru [2]
Billy Trew | |
---|---|
Ganwyd | 12 Mawrth 1879 Abertawe |
Bu farw | 20 Awst 1926 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Abertawe |
Safle | Asgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Bywyd personol
golyguGanwyd William James (Billy) Trew yn Abertawe, yn blentyn i John Trew, gwneuthurwr boeleri, ac Annie Maria (née Page) ei wraig. Roedd Billy Trew yn rhan o deulu chwaraeon. Chwaraeodd ei ddau frawd, Harry a Bert i Glwb Rygbi Abertawe hefyd. Mewn cyfnod lle'r oedd rygbi yn gêm amatur roedd yn ennill ei fywoliaeth i gychwyn trwy ddilyn yn ôl traed ei dad fel gwneuthurwr boeleri,[3] yna bu'n cadw'r Brooklands Hotel yn Oxford Street, Abertawe.[1] Ym 1905 priododd Mary Ann Jones. Bu iddynt tair merch ac un mab. Bu'r mab, Billy Trew iau, hefyd yn chwarae i Glwb Rygbi Abertawe, gan wasanaethu fel capten y tîm yn ystod tymor 1929/30 cyn iddo symud i Loegr i chwarae i Swinton
Bu Trew farw o niwmonia yn ei westy yn Abertawe yn 47 oed. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Danygraig, Abertawe. Cyrchwyd ei elor i'r fynwent gan y chwaraewyr rhyngwladol Fred Scrine, Ivor Morgan, Dicky Owen a Dick Jones[4]
Gyrfa rygbi
golyguAbertawe
golyguDechreuodd Trew i chwarae rygbi i dimau bach lleol y Melbourne a'r Trinity. Ym 1897 Cafodd ei ddewis i chware i drydydd tîm Abertawe. Ar ôl un gêm i'r drydydd tîm cafodd ei ddewis i'r ail dîm ac ar ôl un gêm i'r ail dîm cafodd ei ddewis i'r tîm gyntaf. [5] Roedd gêm gyntaf Trew i dîm cyntaf Abertawe yn erbyn Penarth ar 8 Hydref 1897.Sgoriodd gôl adlam yn yr ornest, [6]. Fe’i penodwyd yn gapten Abertawe ar gyfer tymor 1906/07, swydd a ddaliodd am y pedwar tymor nesaf. Ar ôl seibiant o flwyddyn pan gymerodd Dicky Owen y rôl, [7] cymerodd y gapteniaeth eto ar gyfer tymor 1912/13. Chwaraeodd i Abertawe yn erbyn y Crysau Duon ym 1905 a bu’n gapten ar y tîm mewn buddugoliaethau yn erbyn ochrau teithiol Awstralia (1908) a De Affrica (1912).
Chwaraeodd Trew ei gem ryngwladol gyntaf i Gymru ym 1900 yn 20 mlwydd oed. [9] Roedd ei gêm gyntaf ar yr asgell yn Erbyn Lloegr, sgoriodd cais a bu Cymru yn fuddugol. [10] Chwaraeodd i Gymru 28 gwaith arall, gan sgorio 11 cais, un trosiad ac un gôl adlam. Ei gêm olaf i Gymru oedd buddugoliaeth o 11-8 dros Ffrainc ym 1913.
Gemau rhyngwladol
golyguCymru v[11]
- Awstralia 1908
- Lloegr 1900, 1901, 1907, 1908, 1909, 1910, 1911
- Ffrainc 1908, 1909, 1910, 1911, 1913
- Iwerddon 1900, 1908, 1909, 1911
- yr Alban 1900, 1901, 1903, 1905, 1906, 1907, 1908, 1909, 1910, 1911, 1912, 1913
Ar ôl rhoi'r gorau i chwarae
golyguCafodd Trew anaf yn ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Ffrainc a methodd cael wellhad llwyr ohono. Bu'n mynychu gemau Abertawe gyda'r bwriad o chwarae, ond methodd i fod o gymorth i'r tîm. [12] Ymddeolodd o'r gêm yn swyddogol ym mis Ebrill 2013. Ar ôl rhoi'r gorau i chwarae dechreuodd dyfarnu gemau. [13] Bu'n ysgrifennu erthyglau am chwaraeon i'r Sporting News. Cafodd ei ethol i bwyllgor rheoli Undeb Rygbi Cymru a bu'n gwasanaethu ar y pwyllgor dethol chwaraewyr.
Llyfryddiaeth
golygu- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 978-0-7083-1953-6.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "TREW, WILLIAM JOHN (1878 - 1926), chwaraewr pêl droed (Rygbi) | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ Davies tud 916
- ↑ Yr Archif Genedlaethol, Cyfrifiad Cymru 1901 Plwyf St Marc, Abertawe RG12/4481; Ffolio: 116; Tud: 57
- ↑ Daily Mirror 26 Awst 1926
- ↑ "BIOGRAPHIES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-01-05. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ Smith (1980), tud 134
- ↑ Smith (1980), tud 135.
- ↑ Smith (1980), tud 472.
- ↑ "WALES - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1900-01-06. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ "ENGLAND V WALES - Weekly Mail". Henry Mackenzie Thomas. 1900-01-13. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ Smith (1980), tud 472.
- ↑ "TREW RETIRES - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-05-01. Cyrchwyd 2021-04-12.
- ↑ "TREW TO REFEREE - The Cambria Daily Leader". Frederick Wicks. 1913-09-24. Cyrchwyd 2021-04-12.