Dick Jones (rygbi)
Roedd Richard Hughes Jones (27 Tachwedd 1879 - 24 Tachwedd, 1958) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol Cymreig a oedd yn chwarae rygbi clwb i Glwb Rygbi Abertawe a rygbi rhanbarthol i Sir Forgannwg. Enillodd 15 cap i Gymru.
Dick Jones | |
---|---|
Jones yng nghrys Cymru (1905) | |
Ganwyd | 27 Tachwedd 1879 |
Bu farw | 24 Tachwedd 1958 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Rygbi Abertawe, Clwb Rygbi Sir Forgannwg, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Safle | maswr |
Gyrfa rygbi
golyguCreodd Jones, ynghyd â Dicky Owen, partneriaeth maswyr mwyaf dinistriol i chwarae i Abertawe erioed.[1] Disodlodd Jones ac Owen y brodyr James yn Abertawe, a byddent yn dod â'u partneriaeth i dîm Cymru yn ddiweddarach. Roedd y detholwyr Cymreig yn tueddu i ddewis partneriaid clwb i lenwi safleoedd y ddau faswr. Pan anafwyd Lou Phillips o Gasnewydd mewn gêm yn erbyn yr Alban, disodlwyd ef a'i bartner Llewellyn Lloyd yn raddol gan Jones ac Owen. [2] Byddai'r bartneriaeth yn para am 15 gêm, record Gymreig am faswyr a barhaodd hyd i Barry John a Gareth Edwards ei ddisodli ym 1971. [3]
Chwaraeodd Jones i Abertawe am 12 tymor ac roedd yn aelod o'r tîm a gurodd tîm Awstralia ar daith ym 1908.
Gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Iwerddon ym 1901. Er iddo gael ei ollwng am gyfnod rhwng 1902 a 1904, fe ailsefydlodd ei hun gyda chicio a rhedeg rhagorol yn erbyn yr Alban. Yn anffodus i Jones dorrodd pont ei droed mewn gêm glwb ym 1905 ac ni chwaraeodd rygbi eto tan ddiwedd 1907. Roedd ei ddychweliad ym 1908 yn erbyn Ffrainc mewn ornest i gipio'r Gamp Lawn, sgoriodd Jones y cais buddugol i godi'r tlws i Gymru. Sgoriodd Jones ddau gais arall yn ei yrfa ryngwladol, yn erbyn yr Alban ym 1904 a Lloegr ym 1905. Dylai Jones hefyd fod wedi sgorio yn erbyn Iwerddon, a fyddai wedi rhoi cais iddo yn erbyn holl dimau’r twrnamaint, ond ni chaniatawyd cais am dirio'r bêl iddo yn nhymor 1903/04 yn Belffast trwy ddyfarnu gwael. [4]
Ym 1911 gollyngwyd Owen a Jones ar ôl perfformiad Cymreig gwael yn erbyn Lloegr, lle cafodd Jones ei anrheithio trwy gydol y gêm gan flaen asgellwr Lloegr, ‘Cherry’ Pillman. [5] Dim ond o 11 pwynt i 6 y collodd Cymru’r ornest, yn bennaf oherwydd gwall yn y munud cyntaf gan Benjamin “Ben” Gronow o Ben-y-bont ar Ogwr a ganiataodd i Loegr sgorio, ond ni allai Cymru adfer eu gêm. Roedd y ffaith mai hwn oedd y tro cyntaf i dîm o Gymru golli i Loegr ers 1898 yn rhoi rheswm digonol i'r dewiswyr newid personél ar gyfer y gemau nesaf. Er y byddai Owen yn cael ei ddewis eto, dioddefodd Jones anaf difrifol a ddaeth â’i yrfa chwarae i ben. [3]
Gemau rhyngwladol
golyguHanes personol
golyguJones yw hen daid y digrifwr o Seland Newydd, Dai Henwood.
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.