Dicky Owen

chwaraewr rygbi'r undeb

Roedd Dicky Owen (17 Tachwedd 1876 - 27 Chwefror 1932) yn mewnwr rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Glwb Rygbi Abertawe [2][5] Mae Owen yn cael ei ystyried yn un o'r mewnwyr gorau i chware i Gymru erioed. Enillodd 35 cap dros ei wlad rhwng 1901 a 1912, record a oedd yn ddiguro hyd 1955 pan ragorodd Ken Jones arno.[6]

Dicky Owen
Owen yng nghrys Cymru (1905)
Enw llawn Richard Morgan Owen
Dyddiad geni (1876-11-17)17 Tachwedd 1876
Man geni Glandŵr, Abertawe
Dyddiad marw 27 Chwefror 1932(1932-02-27) (55 oed)
Lle marw Abertawe
Taldra 5 tr 4 mod[1][2]
Pwysau 9 st 7 lb
Perthnasau nodedig Will Joseph (cefnder)
Gwaith Cefnwr gwaith tunplat[3]
tafarnwr[4]
Gyrfa rygbi'r undeb
Gyrfa'n chwarae
Safle Mewnwr
Clybiau amatur
Blynyddoedd Clwb / timau
?
1899-1913
1906
Hafod Rovers
Abertawe
Clwb rygbi Sir Forgannwg
Timau cenedlaethol
Blynydd. Clybiau Capiau
1901-1912  Cymru 35 (6)

Cefndir golygu

Ganed Richard Morgan Owen yng Nglandwr, Abertawe yn fab i John Owen mwyndoddwr yn y gwaith dur ac Ellen ei wraig. Wedi derbyn addysg elfennol yn lleol aeth i weithio fel cefnwr yn y gwaith tunplat.[7] (Y gŵr sy'n casglu'r tun poeth o gefn y peiriant rolio wedi iddi gael ei doddi).[8]

Gyrfa rygbi golygu

Roedd "Dicky" Owen yn un o chwaraewyr mawr Oes Aur cyntaf rygbi Cymru. Chwaraeodd mewn pum garfan a enillodd y Goron Driphlyg ac ynghyd â Gareth Edwards a Haydn Tanner mae'n cael ei gyfrif ymysg y mewnwr gorau i gynrychioli Cymru.[6]

Roedd Owen yn chwaraewr rygbi arloesol, oedd yn ceisio dyfeisio tactegau a symudiadau newydd yn barhaus. Mae'n cael ei gydnabod fel datblygwr ffug ymosodiadau a deall dylanwad mewnwr yn cysylltu ag asgellwyr mewn symudiadau ymosodol.[6] Mae hefyd yn nodedig am ddosbarthu'r bêl gyflym. Symudiad roedd rai maswyr, yn enwedig Percy Bush, yn ei chael yn anodd addasu iddi. Wrth siarad ym 1927, eglurodd Owen ei athroniaeth ar chwarae mewn sgrym:

Gwelwyd enghraifft o feddwl tactegol Owen yn un o'i gemau rhyngwladol cynnar yn erbyn Lloegr ym 1902. Roedd Cymru ar ei hôl hi yn y gêm heb fawr o amser yn weddill pan dwyllodd Owen ei wrthwynebydd, Bernard Oughtred, i gamsefyll ger pyst Lloegr. Gyda'r Cymry yng ngofal y sgrym ar linell 25 y Saeson, dywedodd Owen wrth ei flaenwyr, yn Gymraeg,[2] i gadw gafael ar y bêl, tra bod Owen yn plygu i lawr ac yn esgus ei chasglu. Daeth Oughtred o amgylch y sgrym i fynd i’r afael ag Owen, ond gan nad oedd y bêl gan Owen, cosbwyd y Sais am gamsefyll. Ciciodd John Strand-Jones y gic gosb, gan alluogi Cymru i ennill 9-8.[9]

Ar 9 Ionawr 1904 wynebodd Cymru Loegr eto yn ystod Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Y dyfarnwr ar gyfer yr ornest honno oedd Crawford Findlay o Undeb Rygbi'r Alban. Roedd ei ddehongliad o'r rheolau mor ddryslyd bu i chwaraewyr Cymru cael eu cosbi 11 o weithiau yn yr hanner cyntaf,[10] saith o fewn ystod y gôl. Penderfynodd Owen, yn hytrach nag ildio ciciau cosb amheus bellach, i ganiatáu i'r Saeson roi'r bêl i mewn i'r sgrym hyd yn oed pan oedd yn dro Cymru i wneud hynny.[11]

Gyrfa clwb golygu

Dechreuodd Owen chwarae i dîm bach y Meysydd yng Nglandŵr, cyn ymuno â thîm yr Hafod. Cafodd yrfa lwyddiannus gyda Hafod; wnaethant ennill Tarian Her y Gynghrair Ardal dri thymor yn olynol. Chwaraeodd gydag ail dîm Abertawe am saith gêm, cyn dychwelyd i'r Hafod. Dewiswyd ef i chwarae gyda hen Glwb Rygbi Treforys ar sawl achlysur. Wrth chwarae gyda Threforys yn erbyn Llanelli cafodd gynnig gan aelod o bwyllgor Abertawe i fod yn chwaraewr llanw am ychydig o gemau i gyflenwi ar gyfer aelod o'r tîm a anafwyd. Gan ei fod wedi creu argraff yn ystod ei gyfnod llanw arhosodd gydag Abertawe am weddill ei yrfa rygbi,[12] a bu’n gapten ar Abertawe yn ystod tymor 1911–12.

Gyrfa ryngwladol golygu

 
Carfan Cymru 1905, Owen, rheng flaen, ganolog

Cafodd Owen ei gap gyntaf dros ei wlad mewn gêm fuddugol yn erbyn Iwerddon ar 16 Mawrth 1901,[13] gêm sy'n nodedig am weld ymddangosiad cyntaf rhyngwladol Rhys Gabe hefyd.[14] Mae hirhoedledd Owen fel chwaraewr rygbi rhyngwladol yn dipyn o syndod o ystyried ei gorffolaeth main a thuedd pwyllgor dethol Undeb Rygbi Cymru i dorri a newid ffurfiad yr ochr genedlaethol byth a hefyd. Roedd Owen yn cael ei ystyried yn ddewis cyntaf gan y dewiswyr, ac roedd ei allu i chwarae gyda nifer o wahanol bartneriaid yn ei gadw yn y garfan.

Er i Owen ennill pum Coron Driphlyg a bod yn gapten ar Gymru ar dri achlysur, fe’i cofir fwyaf fel aelod o dîm hanesyddol Cymru a gurodd y Crysau Duon gwreiddiol yn ystod taith Seland Newydd o Brydain ym 1905. Yn ystod y gêm yn erbyn y Crysau Duon, cefnogodd Owen ei saith blaenwr yn ddewr ond cymerodd ergyd drom gan bac Seland Newydd a arweiniodd iddo gael niwed i asen.[15] Yn ddiweddarach yn yr ornest byddai Owen yn cael ei gydnabod fel crëwr y symudiad a arweiniodd at Teddy Morgan yn sgorio'r unig gais ac ennill y gêm.[16]

Gemau rhyngwladol wedi'u chwarae [17]

Ymddeoliad a bywyd diweddarach golygu

Priododd Owen ym 1905 ag Hannah John o Ystum Llwynarth,[18] bu iddynt tair merch.

Ymddeolodd Owen o rygbi rhyngwladol, yn 34 oed, ym 1912 mewn buddugoliaeth o 21-6 [19] erbyn yr Alban, gan chwarae’n briodol ar Faes St Helen yn Abertawe. Cafodd Owen y gapteniaeth ar gyfer yr ornest hon ac ar ôl y chwiban olaf cafodd ei gario o'r cae ar ysgwyddau ei gyd chwaraewyr.[20] Ymddeolodd o rygbi clwb y flwyddyn ganlynol pan adawodd Glwb Rygbi Abertawe ym 1913. Fel gwnaeth llawer o bobl chwaraeon ei gyfnod daeth yn dafarnwr ar ôl ymddeol o rygbi. Bu'n cadw tafarn y Nag's Head, Glandŵr.

Roedd Owen wedi bod yn ddioddef o iselder am beth amser. Cafwyd hyd i'w gorff yn crogi yn y dafarn gan un o'i ferched ym 1932. Cafwyd rheithfarn o hunan laddiad.[4][2] Roedd yn 55 oed.


Cofiwch!

Byw yng ngwledydd Prydain? Gallwch ffonio'r Samariaid am ddim ar: 116 123 unrhyw dro, os ydych yn teimlo'n isel.
Byw yn yr Ariannin? Ffoniwch 107 neu +5402234930430.
Mae rhannu eich pryder yn help ac yn beth da. Awduron lleyg sy'n cyfrannu at Wicipedia,
ond mae cysylltu gyda phobl broffesiynol, a all eich helpu, yn llawer gwell!


Llyfryddiaeth golygu

  • Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Penybont: seren. ISBN 1-85411-262-7.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.
  • Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.

Cyfeiriadau golygu

  1. Parry-Jones (1999), pg 31.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Smith (1979), tud. 132.
  3. Smith (1979), tud 133.
  4. 4.0 4.1 Reliving victory over the All Blacks 1905-style BBC press release
  5. "OWEN, RICHARD MORGAN (1877 - 1932), chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel hanerwr mewnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-02-23.
  6. 6.0 6.1 6.2 Thomas (1979), tud. 33.
  7. Yr Archif Genedlaethol; Cyfrifiad Abertawe 1901 RG13/5073, Ffolio 130; Tud. 34
  8. "Kidwelly Tinplate Works Part 1 – Kidwelly Industrial Museum/ Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli". Cyrchwyd 2021-02-23.
  9. Griffiths, John, Book of English International Rugby 1871-1982, London, Willow Books/Collins ISBN 0-00-218006-5
  10. Smith (1979), tud. 124.
  11. Parry-Jones (1999), tud. 110.
  12. "SOME PROMISING WELSH PLAYERS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-03-08. Cyrchwyd 2021-02-22.
  13. "SHAMROCK LEADS LEEK WINS - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1901-03-16. Cyrchwyd 2021-02-03.
  14. Parry-Jones (1999), tud. 87.
  15. Parry-Jones (1999), tud. 151.
  16. Davies, John; et al Gwyddoniadur Cymru (2008) Gwasg Prifysgol Cymru tud. 675. ISBN 978-0-7083-1954-3
  17. Smith (1980), pg 470.
  18. "Swansea Halfback Wedded - The Cambrian". T. Jenkins. 1905-10-27. Cyrchwyd 2021-02-23.
  19. Smith (1980), tud. 476.
  20. Thomas (1979), tud 34.