Bizkarsoro
Ffilm ddrama o 2023 yw Bizkarsoro, gan y cyfarwyddwr Josu Martinez o Bilbao.[2] Mae'r ffilm wedi'i lleoli mewn tref ffuglennol yng Ngogledd Gwlad y Basg yn yr 20fed ganrif, ac mae'n adrodd hanes gormes yr iaith Fasgeg a'r Basgiaid. Er mai ffuglen yw'r ffilm, defnyddiodd Martinez hanesion gwir, gan adrodd sut y cosbwyd dinasyddion am siarad Basgeg.[3]
Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | Ffrainc, Sbaen |
Dyddiad cyhoeddi | 2023 |
Genre | ffilm ddrama |
Hyd | 82 munud |
Cyfarwyddwr | Josu Martinez |
Cyfansoddwr | Joserra Senperena [1] |
Iaith wreiddiol | Basgeg, Almaeneg, Ffrangeg |
Gwefan | https://bizkarsoro.eus/ |
Mae'n ffilm nodwedd o ran hyd, ond rennir y ffilm yn bump ffilm fer.[4]
Crynodeb
golyguMewn tref ffuglennol, adroddir pum stori wir, a ddigwyddodd rhwng 1915 a 1982:
- 1915 - Mam
- 1921 - yr "Anti" (gwrthrych fel y Welsh Not)
- 1940 - Su-ban-di-la (Madfall)
- 1966 - Geiriau
- 1982 - Merch
Mae'n seiliedig ar dystiolaeth lafar a thestunau ysgrifenwyr, gan adrodd newidiadau cymdeithasol a brofwyd gan dref fechan yng Ngogledd Gwlad y Basg yn ystod yr 20fed ganrif, gwreiddiau a hanes yr iaith a'r frwydr drosti.[5]
Cast
golygu- Bea Kurutxar
- Marxela Aneva-Fuchs
- Manex Fuchs
- Bixente Indart
- Xan Leon Indart
- Lea Campitron
- Ander Lipus
- Eneida Alfaro-Camus
Cyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.sansebastianfestival.com/2023/secciones_y_peliculas/zinemira/7/714436/es.
- ↑ "Bizkarsoro". UniFrance (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Mawrth 2024.
- ↑ "'Bizkarsoro', herrietarantz", Berria, 16 Rhagfyr 2023, https://www.berria.eus/bizigiro/bizkarsoro-herrietarantz_2117944_102.html
- ↑ Josu Martinezek bosgarren obra laburra osatu eta denak film luze batean josiko ditu
- ↑ "Bizkarsoro (Webgune ofiziala)" (yn eu-ES), Bizkarsoro, https://bizkarsoro.eus/
Gweler hefyd
golygu- Itsasoaren alaba (2009)
- Sagarren denbora (2010)
- eu:Debekatuta dago oroitzea (2010)
- Barrura begiratzeko leihoak(2012)
- Gure sor lekuaren bila(2015)
- Jainkoak ez dit barkatzen(2018)
- Anti (2019)