Cymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaenhonddan.[1] Mae'n cynnwys pentrefi Aberdulais, Bryncoch a Llangatwg. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 11,141.

Blaenhonddan
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth12,151 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCastell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd2,129.45 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.6797°N 3.7989°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000603 Edit this on Wikidata
Map

Fe'i rhennir yn wardiau etholiadol Gogledd Bryncoch, De Bryncoch a Llangatwg. Ceir olion caer Rufeinig Nidum yn y gymuned, a Rhaeadr Aberdulais, sy'n awr yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Roedd plasdy Cadoxton Lodge, sydd yn awr wedi ei ddymchwel, yn gatref teulu Tennant. Roedd aelodau'r teulu yma yn cynnwys Winifred Coombe Tennant ("Mam o Nedd") a Dorothy, gwaig Henry Morton Stanley.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[2][3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Blaenhonddan (pob oed) (12,151)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Blaenhonddan) (1,518)
  
12.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Blaenhonddan) (10605)
  
87.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Blaenhonddan) (1,993)
  
39%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  3. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  4. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]