Bob Marley
Roedd Robert Nesta Marley OM (6 Chwefror 1945 - 11 Mai 1981) yn ganwr reggae o Jamaica, yn gitarydd ac yn gyfansoddwr caneuon byd enwog. Caiffl ei ystyried yn un o arloeswyr y genre reggae, a chyfunodd elfennau o reggae, ska, a rocksteady yn ei gerddoriaeth; daeth yn enwog am ei arddull lleisiol a chyfansoddi unigryw.[1][2] Daeth a cherddoriaeth Jamaica i'r amlwg ledled y byd.[3][4] Yn ystod ei yrfa, daeth Marley yn adnabyddus fel eicon Rastaffaraidd, a thrwythodd ei gerddoriaeth ag ymdeimlad o ysbrydolrwydd.[5]
Bob Marley | |
---|---|
Ganwyd | Robert Nesta Marley 6 Chwefror 1945 Nine Mile |
Bu farw | 11 Mai 1981 o melanoma Jackson Memorial Hospital |
Label recordio | Studio One, Beverley's, Wail N Soul M, Upsetter Records, Island Records, Trojan Records, Tuff Gong |
Dinasyddiaeth | Jamaica |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, gitarydd, cyfansoddwr |
Arddull | reggae, Ska, rocksteady |
Math o lais | tenor |
Prif ddylanwad | Curtis Mayfield, Jackie Wilson, Laurel Aitken, The Skatalites, Fats Domino, Prince Buster, The Isley Brothers, Smokey Robinson, Joe Higgs, Marcus Garvey, Coxsone Dodd, James Brown, The Flamingos, John Holt, The Paragons |
Tad | Norval Sinclair Marley |
Mam | Cedella Booker |
Priod | Cindy Breakspeare, Rita Marley |
Plant | Ziggy Marley, Cedella Marley, Stephen Marley, Rohan Marley, Julian Marley, Ky-Mani Marley, Damian Marley, Sharon Marley |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Rock and Roll Hall of Fame, Urdd Teilyngdod, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.bobmarley.com/ |
Mae hefyd yn cael ei ystyried yn symbol byd-eang o gerddoriaeth a diwylliant Jamaica a hunaniaeth pobl, a chefnogodd, yn ddi-flewyn-ar-dafod, ddiwygiadau cymdeithasol heddychol yn ei wlad.[6][7] Roedd hefyd yn cefnogi cyfreithloni canabis, ac yn eiriol dros Traws-Affricaniaeth.[8] Ym 1976, cafwyd ymgais i'w lofruddio yn ei gartref, ymgais wleidyddol, yn fwy na thebyg.[9]
Yn enedigol o Nine Mile, Jamaica, dechreuodd Marley ei yrfa gerddorol broffesiynol ym 1963, ar ôl ffurfio’r grŵp Teenagers gyda Peter Tosh a Bunny Wailer, a fyddai, ar ôl sawl newid enw, yn dod yn Wailers. Rhyddhaodd y grŵp ei albwm stiwdio gyntaf The Wailing Wailers ym 1965, a oedd yn cynnwys y sengl "One Love", a oedd yn ail-bobiad o "People Get Ready"; daeth y gân yn boblogaidd ledled y byd, a sefydlwyd y grŵp dros nos fel prif fand reggae.[10] Yn dilyn hyn, rhyddhaodd The Wailers 11 albwm stiwdio ychwanegol, ac ar ôl arwyddo i Island Records, newidiwyd enw'r band i Bob Marley and the Wailers. Wrth ddefnyddio offerynau uchel eu sain a chanu uwch i ddechrau, dechreuodd y grŵp gymryd rhan mewn adeiladu caneuon rhythmig yn y 1960au hwyr a'r 1970au cynnar, a oedd yn cyd-daro â throsiad Marley i Rastafariaeth. Tua'r amser hwn, ac oherwydd perygl i'w fywyd, symudodd Marley i Lundain. Ymgorfforodd y grŵp eu sifft gerddorol yn eu halbwm The Best of The Wailers (1971).
Dechreuodd y grŵp gael sylw rhyngwladol ar ôl arwyddo i Island, gan deithio i hybu'r albymau Catch a Fire a Burnin' (y ddau yn 1973). Yn dilyn diddymu'r Wailers flwyddyn yn ddiweddarach, parhaodd Marley i ganu o dan enw'r band.[11] Cafodd yr albwm Natty Dread (1974) dderbyniad cadarnhaol. Yn 1975, yn dilyn poblogrwydd byd-eang fersiwn Eric Clapton o "I Shot the Sheriff" gan Marley,[12] tdaeth Marley i enwogrwydd rhyngwladol gyda'i hit cyntaf y tu allan i Jamaica, pan gyhoeddwyd y fersiwn fyw o "No Woman, No Cry", ar yr albwm Live! [13] Dilynwyd hyn gan ei albwm arloesol yn yr Unol Daleithiau, Rastaman Vibration (1976), a gyrhaeddodd 50 Uchaf y Billboard Soul Charts.[14] Ychydig fisoedd ar ôl rhyddhau Rastaman Vibration, goroesodd Marley ymgais i'w lofruddio yn ei gartref yn Jamaica, ymgais a ysgogodd ef i adleoli'n barhaol i Lundain, lle recordiodd yr albwm Exodus, a oedd yn ymgorffori elfennau o'r felan, soul, a roc Prydeinig, a chafodd lwyddiant masnachol ysguboll. Ym 1977, cafodd Marley ddiagnosis o felanoma lentiginous acral ar ei droed; bu farw o ganlyniad i'r afiechyd yn 1981, yn fuan ar ôl ei fedyddio i Eglwys Uniongred Ethiopia. Mynegodd ei gefnogwyr ledled y byd eu galar, a derbyniodd angladd genedlaethol yn Jamaica.
Rhyddhawyd yr albwm fwyaf, sef Legend ym 1984, a daeth yn albwm reggae a werthodd fwyaf erioed.[15] Mae Marley hefyd yn un o'r artistiaid cerdd sydd wedi gwerthu orau erioed, gydag amcangyfrif y gwerthiant yn fwy na 75 miliwn o recordiau ledled y byd.[16] Cafodd ei anrhydeddu gan Jamaica yn fuan ar ôl ei farwolaeth pan roddwyd iddo Urdd Teilyngdod. Ym 1994, ar ôl ei farwolaeth, cafodd ei sefydlu yn Oriel Anfarwolion Roc a Rôl. Gosododd y cylchgrawn Rolling Stone ef yn rhif 11 ar ei restr o'r 100 Artist Mwyaf erioed. a Rhif 98 ar ei restr o'r 200 o Gantorion Mwyaf erioed. Mae ei gyflawniadau eraill yn cynnwys Gwobr Grammy Lifetime Achievement Award, seren ar y Hollywood Walk of Fame, a chyflwyniad i'r Black Music & Entertainment Walk of Fame.
Bywyd personol
golyguCrefydd a chredoau
golyguRoedd Bob Marley'n aelod o#r mudiad Rastafaraidd, yr oedd ei ddiwylliant yn elfen allweddol yn natblygiad reggae. Daeth yn gefnogwr selog i Rastafariaeth, gan fynd â'i gerddoriaeth allan o ardaloedd difreintiedig yn Jamaica ac i'r sin gerddoriaeth ryngwladol.[17] Fel rhan o fod yn Rastafariwr teimlai fod Haile Selassie I o Ethiopia yn ymgnawdoliad o Dduw neu "Jah".[18] Fodd bynnag, yn ddiweddarach yn ei fywyd trosodd i Gristnogaeth Uniongred Ethiopia a chafodd ei fedyddio gan yr Archesgob Abuna Yesehaq ym mhresenoldeb ei wraig Rita Marley a'u plant, gyda'r enw Berhane Selassie, ar 4 Tachwedd 1980, ychydig cyn ei farwolaeth.[19][20]
Fel Rastaffariad cefnogai Marley gyfreithloni canabis neu “ganja”, y mae Rastaffariaid yn credu ei fod yn gymorth i fyfyrio.[21] Dechreuodd Marley ddefnyddio canabis pan drodd at y ffydd Rastafari o Gatholigiaeth ym 1966. Cafodd ei arestio yn 1968 ar ôl cael ei ddal gyda chanabis ond parhaodd i ddefnyddio marijuana yn unol â'i gredoau crefyddol. Am hyn, dywedodd, "Pan fyddwch yn ysmygu perlysiau, mae'r perlysiau'n datgelu eich hun i chi. Mae'r perlysiau yn datgelu i chi eich holl ddrygioni mewnol, a'ch cydwybod, gan ddangos eich hun yn glir, oherwydd fod y perlysiau'n hollol naturiol, ac yn gwneud i chi fyfyrio, gan dyfu ynoch fel coeden."[22] Roedd Marley yn gweld y defnydd o marijuana fel ffactor hanfodol mewn i'w dwf crefyddol a'i gysylltiad â Jah, ac fel ffordd i athronyddu a dod yn ddoethach.[23]
Teulu
golyguPriododd Bob Marley Alfarita Constantia "Rita" Anderson yn Kingston, Jamaica, ar 10 Chwefror 1966.[24] Roedd ganddo nfer o blant: ganed tri i'w wraig Rita, a mabwysiadwyd dau blentyn ychwanegol o berthnasoedd blaenorol Rita, a rhoddwyd iddynt yr enw Marley. Mae gwefan swyddogol Bob Marley yn cydnabod 11 o blant i gyd.
Y rhai a restrir ar y safle swyddogol yw:[25]
- Sharon, ganed 23 Tachwedd 1964, merch Rita o berthynas flaenorol, ond a fabwysiadwyd wedyn gan Marley ar ôl ei briodas â Rita
- Cedella, ganwyd 23 Awst 1967, i Rita
- David "Ziggy", ganed 17 Hydref 1968, i Rita
- Stephen, ganwyd 20 Ebrill 1972, i Rita
- Robert "Robbie", ganwyd 16 Mai 1972, i Pat Williams
- Rohan, ganwyd 19 Mai 1972, i Janet Hunt
- Karen, ganwyd 1973, i Janet Bowen
- Stephanie, ganwyd 17 Awst 1974, o berthynas y tu allan i briodas, a gafodd Rita gyda'r cyn-chwaraewr pêl-droed Owen "Ital Tacky" Stewart; serch hynny, mabwysiadodd Bob Stephanie fel ei blentyn ei hun a rhoddodd hawl iddi i'w stad.[26]
- Julian, ganwyd 4 Mehefin 1975, i Lucy Pounder
- Ky-Mani, ganwyd 26 Chwefror 1976, i Anita Belnavis
- Damian, ganwyd 21 Gorffennaf 1978, i Cindy Breakspeare
Mae gan Marley hefyd nifer o wyrion nodedig, gan gynnwys y cerddorion Skip Marley ac YG Marley, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd Nico Marley, a'r model Selah Marley.
Disgyddiaeth
golygu- The Wailing Wailers (1965)
- Soul Rebels (1970)
- Soul Revolution (1971)
- The Best of The Wailers (1971)
- Catch a Fire (1973)
- Burnin (1973)
- Natty Dread (1974)
- Live! (1975 - live)
- Rastaman Vibration (1976)
- Exodus (1977)
- Kaya (1978)
- Babylon by Bus (1978 - yn fyw)
- Survival (1979)
- Uprising (1980)
- Confrontation (1983)
- ↑ Samuels, A.J. (20 April 2012). "Bob Marley: Anatomy of an Icon". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 May 2020. Cyrchwyd 10 October 2017.
- ↑ "'Marley' – a new view of a cultural icon". www.youthlinkjamaica.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 October 2017. Cyrchwyd 10 October 2017.
- ↑ "7 Fascinating Facts About Bob Marley". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 October 2017. Cyrchwyd 10 October 2017.
- ↑ Toynbee, Jason (8 May 2013). Bob Marley: Herald of a Postcolonial World. John Wiley & Sons. tt. 1969–. ISBN 978-0-7456-5737-0. Cyrchwyd 23 August 2013.
- ↑ Masouri, Jon (11 November 2009). Wailing Blues – The Story of Bob Marley's Wailers. Music Sales Group. ISBN 978-0-85712-035-9. Cyrchwyd 7 September 2013.
- ↑ "Bob Marley". Los Gatos Library (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-24.
- ↑ mauzy (2020-01-31). "Bob Marley Day celebration is Feb. 6". OHIO News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-02-24.
- ↑ Soni, Varun (2 July 2010). "Bob Marley's Spiritual Legacy". huffingtonpost.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 October 2017. Cyrchwyd 11 July 2017.
- ↑ Gane-McCalla, Casey (2016). Inside the CIA's Secret War in Jamaica. Over the Edge Books. ISBN 978-1-944082-07-9. OCLC 1105632241.
- ↑ Gooden, Lou (2003). Reggae Heritage: Jamaica's Music History, Culture & Politic. AuthorHouse. tt. 293–. ISBN 978-1-4107-8062-1. Cyrchwyd 25 August 2013.
- ↑ Barrett, Aston "Family Man" (19 February 2013). "Interview". Pure Guitar. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 December 2013. Cyrchwyd 23 August 2013.
- ↑ Paul Sexton (14 September 2021). "Eric Clapton's 'I Shot The Sheriff': E.C. Takes Bob Marley To The World". udiscovermusic.
- ↑ "Billboard Hits of the World". Billboard. Billboard Publications, Inc. 15 November 1975. t. 69. ISSN 0006-2510. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 October 2013. Cyrchwyd 8 September 2013.
- ↑ "Soul". Billboard. Billboard Publications, Inc. 25 December 1976. t. 77. ISSN 0006-2510. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 October 2013. Cyrchwyd 2 September 2013.
- ↑ Mcateer, Amberly (15 October 2014). "Deadly profitable: The 13 highest-earning dead celebrities". The Globe and Mail. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 21 October 2014.
- ↑ Meschino, Patricia (6 October 2007). "'Exodus' Returns". Billboard. Nielsen Business Media, Inc. t. 42. ISSN 0006-2510. Cyrchwyd 23 August 2013.
- ↑ Carroll, Jim (13 August 2015). "In jah we trust: How reggae spread the rasta word". The Irish Times. Cyrchwyd 19 June 2022.
- ↑ Denise Sullivan (2011). Keep on Pushing: Black Power Music from Blues to Hip-hop. Chicago Review Press. t. 139. ISBN 978-1-56976-906-5.
- ↑ Marley, Rita (5 February 2013). No Woman, No Cry: My Life with Bob Marley. Hachette Books. ISBN 978-1-4013-0569-7. Cyrchwyd 14 December 2016.
- ↑ White, Timothy (7 January 2010). Catch A Fire: The Life of Bob Marley. Omnibus Press. ISBN 978-0-85712-136-3. Cyrchwyd 4 October 2020.
- ↑ Sherry Paprocki; Sean Dolan (2009). Bob Marley: Musician. Infobase Publishing. t. 51. ISBN 978-1-4381-0072-2.
- ↑ Martin Booth (30 September 2011). Cannabis: A History. Random House. tt. 367, 368. ISBN 978-1-4090-8489-1.
- ↑ Moskowitz, David (2007). Bob Marley: A Biography. Greenwood Publishing Group. t. 15. ISBN 978-0-313-33879-3. Cyrchwyd 10 September 2013.
- ↑ Toynbee, Jason (2013). Bob Marley: Herald of a Postcolonial World. John Wiley & Sons. t. 88. ISBN 978-0-7456-5737-0. Cyrchwyd 14 December 2016.
Rita has claimed that she was raped there [Bull Bay] by Bob in 1973 after he returned from London, and asked her to care for another child he was going to have by a woman there (Roper 2004). The formulation changes to 'almost raped' in her autobiography (Marley 2005: 113). But in any event, it seems clear that Bob behaved in an oppressive way towards her, always providing financial support for herself and the children it is true, yet frequently humiliating and bullying her.
- ↑ "Marley Family Photos: The Legend Continues". Bob Marley Official. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 October 2019. Cyrchwyd 29 October 2019.
- ↑ Duffus, Balteano (2021-07-17). "Bob Marley's Children And Marriage | Jamaican Life & Travel" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2023-02-26. Cyrchwyd 2023-02-28.