Talaith Bolzano

(Ailgyfeiriad o Bolzano (talaith))

Talaith ymreolaethol yn rhanbarth Trentino-Alto Adige, yr Eidal, yw Talaith Bolzano (Eidaleg: Provincia autonoma di Bolzano-Alto Adige, Almaeneg: Autonome Provinz Bozen-Südtirol, Ladineg: Provinzia Autonòma de Balsan-Südtirol). Ffurfiwyd y dalaith o ran ddeheuol ardal hanesyddol y Tirol, a chyfeirir at yr ardal fel Alto Adige mewn Eidaleg a Südtirol mewn Almaeneg. Dinas Bolzano yw ei phrifddinas.

Talaith Bolzano
Mathtaleithiau'r Eidal Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlCounty of Tyrol, de Edit this on Wikidata
PrifddinasBolzano Edit this on Wikidata
Poblogaeth531,178 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1948 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethArno Kompatscher Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Eidaleg, Almaeneg, Ladineg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolTrentino-Alto Adige Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd7,400.43 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaTalaith Belluno, Talaith Trento, Talaith Sondrio, Canton y Grisons, Lienz District, Bezirk Zell am See, Schwaz District, Innsbruck-Land District, Imst District, Landeck District Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau46.5°N 11.33°E Edit this on Wikidata
Cod post39100, 39010–39059 Edit this on Wikidata
IT-BZ Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Talaith Bolzano Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCyngor Talaith Bolzano Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arlywydd Talaith Bolzano Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethArno Kompatscher Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd ganddi boblogaeth o 533,267.[1]

Mae'r dalaith yn cynnwys 116 o gymunedau (comuni). Y mwyaf yn ôl poblogaeth yw

Mae'r dalaith yn ffurfio rhan ogleddol rhanbarth Trentino-Alto Adige ac mae'n ffinio ar y Swistir ac Awstria. Mae'r ardal yn dairieithog: Almaeneg, Eidaleg a Ladineg, gyda siaradwyr Almaeneg fel mamiaith yn y mwyafrif. Hyd at 1918, roedd yr ardal yn rhan o Ymerodraeth Awstria, ond wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf daeth yn rhan o'r Eidal. Yng nghyfrifiad 1910, roedd llai na 3% o'r boblogaeth yn siarad Eidaleg fel mamiaith, ond dan lywodraeth Mussolini gwnaed ymdrech fawr i Eidaleiddio'r ardal.

Y sefyllfa ieithyddol yn ôl cyfrifiad 2001 oedd:

  1. 69,15% Almaeneg
  2. 26,47% Eidaleg
  3. 4,37% Ladineg

Mae mwyafrif y boblogaeth yn siarad Almaeneg fel mamiaith mewn 103 allan o 116 cymuned y dalaith. Mewn 8 cymuned, siaradwyr Ladineg sydd yn y mwyafrif.

Cyfeiriadau

golygu
  1. City Population; adalwyd 13 Awst 2023