Mae pentref Borth-y-Gest yn filltir i'r de o Borthmadog. Adeiladwyd llongau yna ac roedd y pentref yn fan cychwyn o daith gerdded beryglus dros Afon Glaslyn i Harlech amser maith yn ôl cyn datblygodd Porthmadog.[1]

Borth-y-Gest
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.91498°N 4.136272°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Ym 1841 dim ond 20 o bobl oedd yn byw yn y pentref; erbyn 1871 roedd y boblogaeth wedi codi i 371, oherwydd 4 iard adeiladu llongau. Agorodd yr ysgol ym 1880 gyda 1670 blant. Yr hyn sydd yn ddiddorol am y cyfnod cynnar hwn yw mai cyfartaledd y presenoldeb oedd 26. Ymysg y resymau dros absenoldeb oedd fod rhaid mynd ar fordaith o rai misoedd gyda'u tadau, mynd i gasglu cocos, gwerthu mecryll, tymor penwaig yn ei anterth, diwrnod dyrnu yn y Borth, cynhaeaf gwair, ffair Cricieth, plannu tatws, sglefrio ar rew neu hel clennig.[2]

Mae'r pentref yn cynnwys gwarchodfeydd natur Parc y Borth a Phen y Banc.[1]

Addysg golygu

Mae ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wedi'i leoli yn y pentref, sef Ysgol Gynradd Borth-y-Gest. 66 o ddisgyblion oedd ar gofrestr yr ysgol yn 2016 ac roedd 40% ohonynt yn dod o gartrefi lle siaredir y Gymraeg, sef cynnydd o 5% ers 2012 ac 20% ers 2006.[3][4][5]

Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Eifionydd ym Mhorthmadog am addysg uwchradd.

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Gwefan visitsnowdonia". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-07-01. Cyrchwyd 2016-04-16.
  2. Gwefan BBC gogledd orllewin Cymru
  3. estyn.llyw.cymru[dolen marw] Adroddiad Mawrth 2006; adalwyd Rhagfyr 2016.
  4. estyn.llyw.cymru;[dolen marw] Adroddiad Ionawr 2012; adalwyd Rhagfyr 2016.
  5. estyn.llyw.cymru;[dolen marw] Adroddiad Hydref 2016; adalwyd Rhagfyr 2016.