Mabon ap Gwynfor

gwleidydd o Gymro

Mae Rhodri Mabon ap Gwynfor, a adnabyddir fel "Mabon" (ganed 6 Awst 1978), yn Aelod o'r Senedd dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd dros Plaid Cymru ers 2021. Roedd hefyd yn gynghorydd Sir dros ward Llandrillo, bro Edeirnion, ar Gyngor Sir Ddinbych. Fe'i etholwyd yn ddi-wrthwynebiad yn etholiadau Llywodraeth Leol Cymru ar Fai 4ydd 2017.

Mabon ap Gwynfor
Ganwyd6 Awst 1978 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 6ed Senedd Cymru Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Cymru Edit this on Wikidata

Mae'n briod i Nia, ac yn dad i bedwar o blant. Mae'n fab i Guto Prys a Sian Elis ap Gwynfor ac yn frawd i Heledd ap Gwynfor, ac mae'n ŵyr i'r gwleidydd Gwynfor Evans.

Blynyddoedd cynnar golygu

Yn fab i weinidog gyda'r Annibynwyr, symudodd Mabon amryw o weithiau yn ystod ei blentyndod: gogledd Ceredigion, Dyffryn Teifi, Cwm Tawe, gyda chyfnod byr yn Gaiana wrth i'r teulu fynd fel cenhadon Cristnogol yno yn 1990.

Addysgwyd ef yn ysgolion cynradd Tal-y-Bont a Chwmann, ysgolion Uwchradd Dyffryn Teifi, Gwyr, ac Ystalyfera, a Phrifysgol Cymru Bangor. Wedi iddo raddio, fe'i etholwyd fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr ym Mangor yn 2000.

Gyrfa golygu

Gweithiodd fel Swyddog i'r Wasg i Simon Thomas, AS Ceredigion, ac Elin Jones, AC Ceredigion cyn mynd ymlaen i fod yn bennaeth cyfathrebu Antur Teifi. Wedi hynny fe'i benodwyd fel Rheolwr Tŷ Siamas, yn Nolgellau. Fe'i benodwyd yn rheolwr Gogledd Cymru ar gyfer y British Heart Foundation yn 2009.

Yn dilyn hyn aeth ymlaen i fod yn brif ymchwilydd gwleidyddol i Llyr Gruffydd AC.

Bu'n Gyfarwyddwr o Theatr Genedlaethol Cymru am dair mlynedd rhwng 2012 a 2015. Ymddiswyddodd fel Cyfarwyddwr er mwyn osgoi rhoi'r Theatr mewn sefyllfa anodd. Cafodd ei ddewis fel ymgeisydd Cynulliad dros Blaid Cymru yn etholaeth De Clwyd a oedd yn golygu y byddai'n sefyll yn erbyn Ken Skates. Ken Skates oedd y Gweinidog a chyfrifoldeb dros y celfyddydau ar y pryd.

Gyrfa wleidyddol golygu

Bu'n rhan o ymgyrch 'Ie Dros Gymru' yn Refferendwm datganoli i Gymru, 1997, a gweithiodd yn wirfoddol am hanner blwyddyn ar ymgyrch Rhodri Glyn Thomas yn ystod etholiadau San Steffan 1997.

Cynrychiolodd Blaid Cymru ar sawl lefel pan yn fyfyriwr prifysgol. Roedd yn ymgeisydd i'r Blaid ar gyfer Cyngor Sir Ceredigion yn 2004, a Chyngor Tref Aberystwyth yn yr un flwyddyn. Collodd etholiad y Cyngor Sir, ward Llanfarian o 20 pleidlais i'r Cynghorydd Alun Lloyd Jones, cyn gynghorydd i Blaid Cymru a ymadawodd i ymuno a'r grwp annibynnol ar y Cyngor Sir rai blynyddoedd ynghynt. Enillodd ei le ar y Cyngor Tref yn y ward ganol, cyn gorfod ymddiswyddo yn 2007 oherwydd ei fod wedi symud i Ddolgellau. Roedd yn ymgeisydd seneddol i'r Blaid ym Mrycheiniog Maesyfed yn 2005, gan ennill 1404 o bleidleisiau.

Rhoddodd ei enw ymlaen ar gyfer enwebiad Plaid Cymru yng Ngheredigion yn 2007, ond fe'u gurwyd gan y Cynghorydd Penri James. Roedd Mabon yn un o gyd-sylfaenwyr CymruX - adain ieuenctid Plaid Cymru.

Etholwyd Mabon yn gydlynydd Dwyfor-Meirionnydd a Cheredigion i Blaid Cymru yn 2008; yn swyddog y wasg i Blaid Cymru Dwyfor-Meirionnydd yn 2009; ac yn gadeirydd ymgyrch San Steffan Elfyn Llwyd yn 2010.

Yn dilyn symud yn ôl i gartref teulu ei wraig yng Nghynwyd, safodd fel ymgeisydd Cynulliad dros Blaid Cymru ar gyfer etholaeth De Clwyd yn 2011 ac eto yn 2016, ac fel Ymgeisydd Seneddol ar gyfer yr etholaeth yn 2015.

Yn 2013 sefydlodd Mabon, ynghyd â Marc Jones, Gyngrhair Iechyd Gogledd Cymru - Cyngrhair o grwpiau ymgyrchu o ar draws y gogledd a oedd yn ymgyrchu yn erbyn gwahanol elfennau o raglen 'Mae Gofal Iechyd yng Ngogledd Cymru yn Newid' Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Yn 2017 cafodd ei ethol fel Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas y Cymod.

Mae'n Gristion ac yn cymryd cryn ddiddordeb mewn materion sy'n ymwneud â heddwch, gan ymgyrchu yn erbyn rhyfeloedd. Mae'n gyn-drefnydd Gŵyl Heddwch Aberystwyth.