Borys Hrybinsky
Llenor, golygydd, a chyfieithydd o Wcráin a ymfudodd i Ganada oedd Borys Hrybinsky (21 Gorffennaf 1921 – 21 Rhagfyr 1979) a ysgrifennodd farddoniaeth delynegol dan yr enw Borys Oleksandriv a barddoniaeth a straeon byrion digrif dan yr enw Svyryd Lomachka. Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada.
Borys Hrybinsky | |
---|---|
Ganwyd | 21 Gorffennaf 1921 Ruzhyn |
Bu farw | 21 Rhagfyr 1979 |
Galwedigaeth | bardd |
Ganwyd yn Ruzhyn, Skvyra, yn nhalaith Kiev, yr Wcráin. Ymfudodd i Toronto yn 1948, ac yno sefydlodd cangen leol Slovo, y gymdeithas er llenorion Wcreinaidd alltud. Golygodd y cylchgrawn ieuenctid Moloda Ukraïna o 1951 i 1960. Cyhoeddodd bum casgliad o farddoniaeth delynegol: Moïdni (1946), Tuha za sontsem: Poeziï 1945–1965 (1967), Kolokruh (1972), Kaminnyi bereh: Poeziï pro liubov, pro zhyttia i pro smert' 1972–1975 (1975), a Povorot po slidu: Vybrani poeziï 1939–1979 (1980). Cyhoeddwyd ei straeon a cherddi doniol ac ysgrifau dychanol yn y wasg Wcreineg yng Nghanada ac yn y ddwy gyfrol Svyryd Lomachka v Kanadi (1951) a Liubov do blyzhn'oho (1961). Cyfieithodd yr alargan Requiem gan Anna Akhmatova o'r Rwseg i'r Wcreineg yn 1973, a blodeugerdd o farddoniaeth Québec o'r Ffrangeg i'r Wcreineg yn y gyfrol Poeziia/Kvebek (1972). Bu farw yn 58 oed yn Toronto.[1]