Borys Hrybinsky

(Ailgyfeiriad o Borys Oleksandriv)

Llenor, golygydd, a chyfieithydd Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Borys Hrybinsky (21 Gorffennaf 192121 Rhagfyr 1979) a ysgrifennodd farddoniaeth delynegol dan yr enw Borys Oleksandriv a barddoniaeth a straeon byrion digrif dan yr enw Svyryd Lomachka. Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada.

Borys Hrybinsky
Ganwyd21 Gorffennaf 1921 Edit this on Wikidata
Ruzhyn Edit this on Wikidata
Bu farw21 Rhagfyr 1979 Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Ruzhyn, Skvyra, yn nhalaith Kiev, yr Wcráin. Ymfudodd i Toronto yn 1948, ac yno sefydlodd cangen leol Slovo, y gymdeithas er llenorion Wcreinaidd alltud. Golygodd y cylchgrawn ieuenctid Moloda Ukraïna o 1951 i 1960. Cyhoeddodd bum casgliad o farddoniaeth delynegol: Moïdni (1946), Tuha za sontsem: Poeziï 1945–1965 (1967), Kolokruh (1972), Kaminnyi bereh: Poeziï pro liubov, pro zhyttia i pro smert' 1972–1975 (1975), a Povorot po slidu: Vybrani poeziï 1939–1979 (1980). Cyhoeddwyd ei straeon a cherddi doniol ac ysgrifau dychanol yn y wasg Wcreineg yng Nghanada ac yn y ddwy gyfrol Svyryd Lomachka v Kanadi (1951) a Liubov do blyzhn'oho (1961). Cyfieithodd yr alargan Requiem gan Anna Akhmatova o'r Rwseg i'r Wcreineg yn 1973, a blodeugerdd o farddoniaeth Québec o'r Ffrangeg i'r Wcreineg yn y gyfrol Poeziia/Kvebek (1972). Bu farw yn 58 oed yn Toronto.[1]

Cyfeiriadau golygu