Brân lwyd

rhywogaeth o adar
Brân Lwyd
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Corvidae
Genws: Corvus
Rhywogaeth: C. cornix
Enw deuenwol
Corvus cornix
Linnaeus, 1758
Dosbarthiad y Frân Lwyd
Clamator glandarius + Corvus cornix

Mae'r Frân lwyd (Corvus cornix) yn aelod o deulu'r brain. Hyd yn ddiweddar yr oedd yn cael ei hystyried fel un is-rywogaeth o'r frân dyddyn (Corvus corone) ond yn awr mae'n cael ei hystyried rhywogaeth ar wahân.

Mae'n nythu yng ngogledd a dwyrain Ewrop ac mae ffurfiau tebyg yn ne Ewrop a gorllewin Asia. Yn yr Ynysoedd Prydeinig mae'n nythu yn Iwerddon, Ynys Manaw a gogledd Yr Alban. Mae'n gallu paru gyda'r frân dyddyn a chynhyrchu cywion. Fel y frân dyddyn mae'n medru bwyta bron unrhyw beth, gan gynnwys anifeiliaid wedi marw a wyau adar eraill. Nid yw mor dueddol i nythu mewn coed a'r frân dyddyn, yn aml adeiledir y nyth ar lawr neu ar glogwyni.

Gellir adnabod y frân lwyd yn hawdd gan fod y cyfuniad o ddu a llwyd yn unigryw ymysg y brain. Mae'r pen, gwddf, adenydd a'r gynffon yn ddu a'r corff yn llwyd.

Nid yw'r frân lwyd yn aderyn cyffredin yng Nghymru ond mae yn cael ei gweld yn weddol gyson, yn enwedig yn rhan ogleddol Ynys Môn lle mae parau wedi nythu yn ddiweddar, ac eraill wedi paru gyda brân dyddyn.

Cyfeiriadau

golygu