Agor y brif ddewislen

Brecwast, neu weithiau borefwyd, yw pryd o fwyd sy'n rhagflaenu cino canol dydd neu cinio ac fel arfer yn cael ei fwyta yn y bore.

Ceir y defnydd cynharaf o'r term yn y Gymraeg yn y 16g fel gwahanol sillafiadau Cymreig o'r 'breakfast' Saesneg. Yn 1753 y ceir y cyfnod cynharaf o'r Cymreigiad a'r ynganiad cyfoes, 'brecwast' gydag 'w' yn disodli'r sain 'ff'.[1]

Brecwastau nodweddiadol yn ôl rhanbarthau'r bydGolygu

Ynysoedd Prydain ac IwerddonGolygu

Mae powliad o uwd yn boblogaidd o hyd yn yr Alban.

Yn Iwerddon, gall brecwast Gwyddelig gynnwys pwdin gwyn, bara soda, ac yn Ulster, farlau soda a farlau tatws.

FfraincGolygu

Nid yw brecwast yn bryd o fwyd pwysig yn Ffrainc. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn bodloni ar bowliad mawr o goffi ffres cryf (neu siocled neu te), yn aml heb lefrith, gyda croissant neu tafell (sleisiad) o fara menyn a siam.

Gwlad GroegGolygu

Yng ngogledd Gwlad Groeg caiff pasteiod o'r enw bugatsa eu bwyta efo coffi Groegaidd.

UDA a ChanadaGolygu

Mae crempog ac omlet yn ffordd draddodiadol o gychwyn y dydd mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a Chanada.

Israel ac Iddewon IracGolygu

Yn draddodiadol ar y Saboth byddai Iddewon Irac yn bwysta bryd oer syml o wylys, tatws ac ŵy wedi ferwi'n galed gan nad oedd hawl coginio ar y Sabath yn ôl eu crefydd. Wedi eu herlid i symud i Israel yn yr 1040au a'r 1950au, datblygodd y pryd syml yma i'w weini mewn bara pita a'i erthi o ciosgs bwyd fel Sabich.

DiodyddGolygu

Mae diodydd cyffredin yn cynnwys suddion ffrwyth (Sudd oren, sudd afal, sudd grawnffrwyth, ayyb), llaeth, te, a choffi.

Dathliadau a gwyliau pwysigGolygu

Yn ystod Ramadan, gelwir Mwslemiaid y pryd ar ôl machlud haul sy'n torri'r ympryd yn (Iftar).

Chwiliwch am brecwast
yn Wiciadur.

CyfeiriadauGolygu