Sabich

cludfwyd Israeli i Irac mewn bara pita

Mae Sabich (Hebraeg:: סביח‎, ynganwch gydag 'ch' Gymraeg) yn fwyd llyseiol Israeli-Iraci poblogaidd sy'n gyffredin ar draws Israel. Mae'r cynhwysion yn debyg i gynhwysion brecwast Iddewon Irac ar y Sabath. Mae'r Sabich Israeli cyfoes yn cyfuno'r holl gynhwysion mewn bara pita yn hytrach nag ar hambwrdd neu blât fawr.

Sabich
Mathbwyd Edit this on Wikidata
DeunyddWylys, Bara pita, Israeli salad, hard-boiled egg, Persli, amba, Tahini Edit this on Wikidata
Label brodorol‏סביח‏‎ Edit this on Wikidata
GwladIrac Edit this on Wikidata
Yn cynnwysWylys, Israeli salad, hard-boiled egg, Bara pita, Persli, amba, Tahini Edit this on Wikidata
Enw brodorol‏סביח‏‎ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Sabich
Sabich
Bwyty Sabich Ovad yn Giv'atayim

Cynnwys

golygu

Gweinir y Sabich mewn bara pita a'r cynnwys traddodiadol, craidd yw tafelli wylys, ŵy wedi'i ferwi'n galed, saws tahini tenau, sudd lemwn a garlleg, salad Israeli, persli ac amba. Mae rhai fersiynau yn cynnwys tatws wedi'u berwi. Yn draddodiadol fe'i gwneir gydag wyau haminados, sef wyau wedi'u berwi'n araf nes iddynt droi'n frown. Gellir ychwanegu schwg gwyrdd neu goch yn ôl chwaeth y bwytawr gyda winwns wedi eu torri'n fân hefyd.

Etymoleg

golygu

Ceir gwahanol esboniadau am enw'r bwyd.[1] Yn ôl rhai, enwir y bwyd ar ôl sefydlydd y ciosg byr-bryd cyntaf yn Israel, Sabich Tsvi Halabi, Iddew a anwyd yn Irac.

Yn ôl etymoleg boblogaidd, daw'r gair sabich o'r Arabeg, صباح (IPA Arabeg: sˤaˈbaːħ), sy'n golygu "bore" gan fod y cynhwysion yn nodweddiadol o frecwast Iddewon Irac.[2]

Daeth y Sabich i Israel gydag Iddewon o Irac a ymfudodd i'r wlad yn yr 1940au a'r 1950au. Ar y Saboth, pan waherddid coginio yn ôl eu crefydd, byddai Iddewon Irac yn bwyta pryd oer o fwyd wedi'i baratoi'n barod - wylys, tatws ac wyau wedi'u berwi. Yn Israel yn yr 1950au ac 1960au rhoddid y cynhwysion hyn mewn bara pita ac fe'i gwerthid yn gludfwyd - fel sy'n gyffredin yno gyda chludfwyd ffelaffel a siawarma - a gwerthu mewn ciosg bwyd awyr agored.[3][[[|angen ei wiro]]]

Salad Sabich

golygu

Ceir fersiwn wledig o'r enw Salad Sabich, Salat Sabich yn Hebraeg. Cynnwys y salad yma yw wylys, wyau wedi eu berwi'n galed, salad Israeli, tatws, persli ac amba. Caiff y cynhwysion eu cymysgu ar blât gyda swmac neu za'atar ar ei ben, yn hytrach na'u rhoi mewn bara pita.

Salad Israeli

golygu

Cynnwys tomato, winwns, ciwcymber, tsili wedi eu torri'n fân a'u cymysgu. Mae'n cael ei ddefnyddio'n aml i gyd-fynd gyda phrydau poeth ac oer eraill neu mewn byrbrydau fel ffelaffel neu Sabich.

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.youtube.com/watch?v=G72XKYn1E3s
  2. "אין כמו, אין כמו עמבה: מדריך הסביח - מדן ועד אילת", ynet, 12.11.06
  3. Hybrid Power: The Iraqi-Israeli Sabich