Gwleidydd o'r Alban yw Brendan O'Hara (ganwyd 27 Ebrill 1963; Glasgow) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Argyll a Bute; mae'r etholaeth yn Argyll a Bute, yr Alban. Mae Brendan O'Hara yn cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin. ef yw llefarydd yr SNP dros Amddiffyn.

Brendan O'Hara
Brendan O'Hara


Deiliad
Cymryd y swydd
7 Mai 2015

Geni (1963-04-27) 27 Ebrill 1963 (60 oed)
Glasgow, Yr Alban
Cenedligrwydd Albanwr
Etholaeth Argyll a Bute
Plaid wleidyddol Plaid Genedlaethol yr Alban
Logo
Alma mater Prifysgol Ystrad Clud
Galwedigaeth Llefarydd dros Amddiffyn
Gwefan http://www.snp.org/

Cafodd yrfa lwyddiannus fel cynhyrchydd rhaglenni teledu a chynigiwyd ei enw am wobr BAFTA'r Alban. Ef sgwennodd, cynhyrchodd a chyfarwyddodd y rhaglen ddogfen "Road To Referendum" a ddarlledwyd ar STV yn 2013. Mae wedi gweithio i STV, Sky Sports a'r BBC.

Etholiad 2015 golygu

Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[1][2] Yn yr etholiad hon, derbyniodd Brendan O'Hara 22959 o bleidleisiau, sef 44.3% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o +25.3 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 8473 pleidlais.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu