Argyll a Bute (etholaeth seneddol y DU)
Mae Argyll a Bute yn etholaeth sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, pan unwyd Swydd Argyll gyda rhan o Bute a Gogledd Ayr. Ceir etholaeth arall o'r un enw sy'n ethol cynrychiolydd i Senedd yr Alban.
Argyll a Bute | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
![]() Ffiniau Argyll a Bute yn Yr Alban. | |
Awdurdodau unedol yr Alban | Argyll a Bute |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1983 |
Aelod Seneddol | Brendan O'Hara Plaid Genedlaethol yr Alban |
Crewyd o | Swydd Argyll Bute a Gogledd Ayr |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 cipiwyd y sedd oddi wrth Alan Reid, Y Democratiaid Rhyddfrydol gan Brendan O'Hara, Plaid Genedlaethol yr Alban. Yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2017 daliodd ei afael yn y sedd. Gwnaeth yr un peth yn 2019.