Brenhinllys
Perlysieuyn yw Brenhinllys (neu ar lafar ac yn Saesneg: Basil; Lladin: Ocimum basilicum) a ddefnyddir i roi blas ar fwyd, ac sy'n un o deulu mawr y mintys, sy'n ffynnu drwy dde-ddwyrain Asia, Thailand, Fietnam yn ogystal ag Iran ac India lle mae wedi cael ei gynaeafu ers 5,000 o flynyddoedd. Mae'r brenhinllys pêr ('Sweet basil') yn wahanol ac yn cael ei ddefnyddio mewn ceginau yn yr Eidal a gweddill Ewrop.
Enghraifft o'r canlynol | tacson |
---|---|
Math | perlysieuyn, plant as food, planhigyn defnyddiol, planhigyn unflwydd |
Safle tacson | rhywogaeth |
Rhiant dacson | Ocimum |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Brenhinllys | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
Ddim wedi'i restru: | Asteridau |
Urdd: | Lamiales |
Teulu: | Lamiaceae |
Genws: | Ocimum |
Rhywogaeth: | O. basilicum |
Enw deuenwol | |
Ocimum basilicum L. |
Tarddiad y gair 'Basil' yw'r Roeg βασιλεύς (basileus) sy'n golygu 'Brenin'; a gwelir y cysylltiad Cymraeg ar unwaith.
Planhigyn cynorthwyol
golygu(Sa: Companion plant) Mae'r Brenhinllys yn cael ei blannu'n aml nid yn unig i'w fwyta ond fel planhigyn cynorthwyol sy'n cael ei blannu gyda phlanhigion Tomato[1] gan ei fod yn wych am gadw'r pry gwyn draw.[2]
Rhinweddau meddygol
golyguCaiff brenhinllys ei ddefnyddio gan rai i drin cramp yn y cyllau, taflu i fyny, rhwymedd, gordyndra a chur pen.[3]
Ceir llu o anhwylderau sy'n cael eu trin gan frenhinllys ac yn eu plith y mae: blinder meddwl, asma a chlefyd y siwgr. gan ei fod yn wych am gadw'r pry gwyn draw.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan Parc Cenedlaethol Eryri". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-24. Cyrchwyd 2009-04-25.
- ↑ 2.0 2.1 "Gwefan Saesneg E-sortment". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-05-01. Cyrchwyd 2009-04-25.
- ↑ Gwefan Saesneg 'Gardens Ablaze'